Galwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, yn ôl dyddiad
Wedi ei archifo – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am alwadau a wneir i 111 a Galw Iechyd Cymru wedi cael eu cyhoeddi'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae ffigurau'n dangos nifer y galwadau a wneir i 111 a Galw Iechyd Cymru yng Nghymru. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Mae gwasanaeth 111 wedi cael ei gyflwyno i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19, ond mae galwadau'n dal i gael eu gwneud i Galw Iechyd Cymru.Mae llinell 111 wedi'i rhoi ar waith ym mhob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru oherwydd COVID-19
Wrth ffonio 111 neu Galw Iechyd Cymru clywir neges awtomatig sy’n cynnig dewisiadau eraill yn lle galwad 111/Galw Iechyd Cymru, megis y fferyllfa leol. Os yw'r galwr yn dal i fod ar y llinell ar ôl 60 eiliad, nid yw am ddewis yr opsiwn hwn ac fe hoffai siarad â rhywun.
Casgliad data a dull cyfrifo
O 17 Mehefin 2021, ni fyddwn yn diweddaru’r data yma mwyach.Mae galwadau i 111 a Galw Iechyd Cymru'n cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19. Mae gwybodaeth ar gael am bob galwad a chyfran y galwadau sydd ar gyfer symptomau COVID-19. Mae'r wybodaeth ar gael ar lefel byrddau iechyd lleol.
Datganiad wythnosol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil EXCEL a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL.