Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Rheoli Gwybodaeth Cleifion COVID-19 mewn ysbytai acíwt, yn ôl y bwrdd iechyd lleol a'r math o welyau

Mae ffigurau’n dangos nifer a chanran y cleifion COVID-19 a gadarnhawyd mewn ysbytai acíwt sy’n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y bwrdd iechyd lleol a'r dyddiad. O 10 Chwefror 2023 newidiodd amlder adrodd data o bob dydd i wythnosol. Wedi hynny, mae data yn gipolwg ar ddydd Mercher ym mhob wythnos. Mae'r data'n cael eu cymryd o wybodaeth reoli ac yn amodol ar newid. Nid ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i'r un prosesau dilysu a wnaed ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

None
Dyddiad[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]Bwrdd Iechyd[Hidlo]
-
Bwrdd Iechyd 1
Mesur[Hidlo]
[Lleihau]Math o welyau[Hidlo]
-
-
Math o welyau 1
[Lleihau]Cymru
[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda[Lleihau]Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)Cliciwch yma i ddidoliCleifion COVID-19 wedi'u cadarnhauCliciwch yma i ddidoliCleifion sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19Cliciwch yma i ddidoliCanran sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 (%)
[Lleihau]Cyfanswm y Gwelyau693371,14329692,1261822621,2131866499283081,04692239
Cyfanswm y GwelyauGwelyau gofal critigol00..|The data item is not appicable as the denominator is 0.280..|The data item is not appicable as the denominator is 0.6868..|The data item is not appicable as the denominator is 0.357..|The data item is not appicable as the denominator is 0.2927..|The data item is not appicable as the denominator is 0.387..|The data item is not appicable as the denominator is 0.
Gwelyau cyffredinol ac acíwt693371,11529702,0581141741,1781142470141,00885234

Metadata

Teitl

Cleifion COVID-19 mewn ysbytai acíwt sy'n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y math o welyau, bwrdd iechyd lleol a'r dyddiad

Diweddariad diwethaf

17 Mawrth 2023 17 Mawrth 2023

Diweddariad nesaf

23 Mawrth 2023

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

kas.covid19@llyw.cymru

Dynodiad

Gwybodaeth reolaethol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae ffigurau’n dangos nifer a chanran y cleifion COVID-19 a gadarnhawyd mewn ysbytai acíwt sy’n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y math o welyau, bwrdd iechyd lleol a'r dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

Casgliad data a dull cyfrifo

Adroddiad sefyllfaol (SITREP) dyddiol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil TEXT a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y ffurflen yn cael ei ffynhonnellu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel yr ysbyty yn priodol i'w cyhoeddi.

Casgliad data newydd ydy hwn. Gofynnwyd i fyrddau iechyd gategoreiddio cleifion mewnol â COVID-19 wedi’u cadarnhau yn ôl a ydynt yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ai peidio. Mae’r cleifion sy ddim yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ydy'r rhai lle mae'r haint yn atodol i'r prif reswm dros fod yn yr ysbyty.

Nid oes diffiniad safonol ar gyfer ‘yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19’ ac mae rhai gwahaniaethau ar draws Byrddau Iechyd a lleoliadau yn y dulliau a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad. Mae gwaith yn parhau i ddeall ansawdd a chysondeb y data, ond ystyrir bod y ffigurau'n addas ar gyfer darparu amcangyfrif lefel uchel.

Ni fydd claf yn cael ei ddiffinio fel claf y cadarnhawyd bod ganddo COVID-19 hyd nes y bydd wedi cael prawf positif; a bydd yn parhau i gael ei ddiffinio felly hyd nes y bodlonir y meini prawf israddio. (Gweler yr adran ar wella o COVID-19 isod).

Diffinnir claf fel un sy’n gwella o COVID-19 os yw naill ai'n cael canlyniad prawf negatif fel cadarnhad ei fod bellach yn glaf sy’n gwella o COVID-19, neu os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

• wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif; ac
• wedi dangos gwelliant clinigol yn ei gyflwr, gydag o leiaf rywfaint o adferiad anadlol; a
• dim twymyn (> 37.8°C) am 48 awr; a
• dim imiwnoataliaeth gwaelodol difrifol

Amlder cyhoeddi

Dyddiol

Cyfnodau data dan sylw

17 Ionawr 2022 ymlaen.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, gan bod modd i ysbytai ailgyflwyno datganiad, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.

Allweddeiriau

COVID-19, Coronafeirws, GIG, cleifion, gwelyau, ysbyty

Ansawdd ystadegol

Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion ysbytai acíwt yn unig. Nid yw cleifion ysbytai cymunedol, ysbytai maes ac unedau iechyd meddwl, a chleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi'u cynnwys.

Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19. Nid yw achosion lle ceir amheuaeth o COVID-19 a chleifion sy'n gwella o COVID-19 wedi'u cynnwys.

O 24 Mawrth 2022 ymlaen, mae’r byrddau iechyd wedi bod yn gweithredu’r canllawiau profi COVID-19 wedi’u diweddaru ar draws yr ystâd ysbytai. Parheuir bod pob claf yn cael ei brofi wrth gael ei dderbyn. Fodd bynnag, mae newid i gleifion sy'n parhau i fod yn asymptomatig yn ystod eu harhosiad, lle nad oes gofyniad mwyach i brofi'r cleifion hynny. Bydd hyn yn golygu na fydd nifer o achosion damweiniol / nosocomial yn cael eu dal mwyach, a bydd hyn yn cael effaith ar y ffigurau a adroddwyd.

Rydym yn ymwybodol o fater sy'n effeithio ar y data a dderbyniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth. Credir bod y data'n tangyfrif gwir nifer y gwelyau mewn ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Byddai hyn yn golygu y bydd y cyfansymiau a gyflwynir yma ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw. Mae cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio i ddatrys y mater ac ailgyflwyno data diwygiedig am y cyfnod llawn yr effeithir arno.

17 Mai 2022 - Mae problem gyda data Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth wedi'i datrys. Roedd y data'n tangyfrif o wir nifer y gwelyau ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Roedd hyn yn golygu bod y cyfansymiau a gyflwynwyd ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw.