Cleifion COVID-19 mewn ysbytai acíwt sy'n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 yng Nghymru, yn ôl y dyddiad
Mae ffigurau’n dangos nifer a chanran y cleifion COVID-19 a gadarnhawyd mewn ysbytai acíwt sy’n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y bwrdd iechyd lleol a'r dyddiad. O 10 Chwefror 2023 newidiodd amlder adrodd data o bob dydd i wythnosol. Wedi hynny, mae data yn gipolwg ar ddydd Mercher ym mhob wythnos. Mae'r data'n cael eu cymryd o wybodaeth reoli ac yn amodol ar newid. Nid ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i'r un prosesau dilysu a wnaed ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Cleifion COVID-19 mewn ysbytai acíwt sy'n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y math o welyau, bwrdd iechyd lleol a'r dyddiadDiweddariad diwethaf
13 Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
Dim hwy diweddaruSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion ysbytai acíwt yn unig. Nid yw cleifion ysbytai cymunedol, ysbytai maes ac unedau iechyd meddwl, a chleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi'u cynnwys.Mae'r ffigurau ar gyfer cleifion y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19. Nid yw achosion lle ceir amheuaeth o COVID-19 a chleifion sy'n gwella o COVID-19 wedi'u cynnwys.
O 24 Mawrth 2022 ymlaen, mae’r byrddau iechyd wedi bod yn gweithredu’r canllawiau profi COVID-19 wedi’u diweddaru ar draws yr ystâd ysbytai. Parheuir bod pob claf yn cael ei brofi wrth gael ei dderbyn. Fodd bynnag, mae newid i gleifion sy'n parhau i fod yn asymptomatig yn ystod eu harhosiad, lle nad oes gofyniad mwyach i brofi'r cleifion hynny. Bydd hyn yn golygu na fydd nifer o achosion damweiniol / nosocomial yn cael eu dal mwyach, a bydd hyn yn cael effaith ar y ffigurau a adroddwyd.
Rydym yn ymwybodol o fater sy'n effeithio ar y data a dderbyniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth. Credir bod y data'n tangyfrif gwir nifer y gwelyau mewn ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Byddai hyn yn golygu y bydd y cyfansymiau a gyflwynir yma ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw. Mae cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio i ddatrys y mater ac ailgyflwyno data diwygiedig am y cyfnod llawn yr effeithir arno.
17 Mai 2022 - Mae problem gyda data Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Chwefror a 31 Mawrth wedi'i datrys. Roedd y data'n tangyfrif o wir nifer y gwelyau ysbytai a ddefnyddir gan gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19. Roedd hyn yn golygu bod y cyfansymiau a gyflwynwyd ar gyfer Cymru yn is na'r gwir ffigurau dros y cyfnod hwnnw.
Disgrifiad cyffredinol
Mae ffigurau’n dangos nifer a chanran y cleifion COVID-19 a gadarnhawyd mewn ysbytai acíwt sy’n cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19, yn ôl y math o welyau, bwrdd iechyd lleol a'r dyddiad. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.Yn unol ag egwyddorion y pontio o bandemig i endemig, daeth y gwaith casglu rheolaidd ar gyfer yr adroddiad sefyllfa wythnosol (SITREP) a oedd yn cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy'n darparu'r data yn y gyfres hon, i ben ar 12 Gorffennaf 2023. Felly, y data a gyhoeddir ar 13 Gorffennaf 2023 fydd y diweddariad terfynol i'r data hyn. Mae data cysylltiedig, er nad oes modd eu cymharu'n uniongyrchol, ar gael ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Adroddiad sefyllfaol (SITREP) dyddiol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ar lefel ysbytai ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil TEXT a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Gan fod y ffurflen yn cael ei ffynhonnellu o wybodaeth reoli, nid yw data lefel yr ysbyty yn priodol i'w cyhoeddi.Casgliad data newydd ydy hwn. Gofynnwyd i fyrddau iechyd gategoreiddio cleifion mewnol â COVID-19 wedi’u cadarnhau yn ôl a ydynt yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ai peidio. Mae’r cleifion sy ddim yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19 ydy'r rhai lle mae'r haint yn atodol i'r prif reswm dros fod yn yr ysbyty.
Nid oes diffiniad safonol ar gyfer ‘yn cael triniaeth weithredol ar gyfer COVID-19’ ac mae rhai gwahaniaethau ar draws Byrddau Iechyd a lleoliadau yn y dulliau a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad. Mae gwaith yn parhau i ddeall ansawdd a chysondeb y data, ond ystyrir bod y ffigurau'n addas ar gyfer darparu amcangyfrif lefel uchel.
Ni fydd claf yn cael ei ddiffinio fel claf y cadarnhawyd bod ganddo COVID-19 hyd nes y bydd wedi cael prawf positif; a bydd yn parhau i gael ei ddiffinio felly hyd nes y bodlonir y meini prawf israddio. (Gweler yr adran ar wella o COVID-19 isod).
Diffinnir claf fel un sy’n gwella o COVID-19 os yw naill ai'n cael canlyniad prawf negatif fel cadarnhad ei fod bellach yn glaf sy’n gwella o COVID-19, neu os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:
• wedi cwblhau 10 diwrnod ar ôl prawf COVID-19 positif; ac
• wedi dangos gwelliant clinigol yn ei gyflwr, gydag o leiaf rywfaint o adferiad anadlol; a
• dim twymyn (> 37.8°C) am 48 awr; a
• dim imiwnoataliaeth gwaelodol difrifol
Amlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
17 Ionawr 2022 ymlaen.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, gan bod modd i ysbytai ailgyflwyno datganiad, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.Dolenni'r we
https://llyw.cymru/gweithgarwch-chapasitir-gig-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws-covid-19Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am ansawdd data yn gyffredinol.
https://digidoladata.blog.llyw.cymru/2020/06/04/diweddariad-y-prif-ystadegydd-mesur-nifer-yr-unigolion-sydd-yn-yr-ysbyty-a-rhai-sylwadau-ynghylch-ansawdd-data/
Gweler dangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU:
https://coronavirus.data.gov.uk/healthcare