
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Nifer yr atgyfeiriadau a gwblhawyd, yn ôl oedran a rhyw'r dioddefwr honedig, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 MawrthDiweddariad diwethaf
22 Chwefror 2017Diweddariad nesaf
Diweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed (PVA2), Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, neu gyda gwybodaeth ychwanegol ynglyn ag ansawdd a dulliau gwaith yn yr Adroddiad Ansawdd, yn y dolenni i'r we a roddir.Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/protection-vulnerable-adults/?skip=1&lang=cy;http://wales.gov.uk/docs/statistics/2013/130411-aggregate-pss-statistics-quality-report-en.pdf
Allweddeiriau
Camdriniaeth; AmddiffynDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ynglyn â honiadau o gamdriniaeth yn erbyn oedolion. Mae Llywodraeth Cymru'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu adroddiadau blynyddol ar amddiffyn oedolion, gan gynnwys data sy'n cyflawni safonau y cytunwyd arnynt yn gyffredin ac a bennwyd trwy 'Mewn Dwylo Diogel', a gyhoeddwyd yn 2000. Er y gwnaed ymdrechion eang i gasglu gwybodaeth ddibynadwy a chywir gan awdurdodau lleol, nid yw'r data yn berffaith. O ganlyniad, bydd angen bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau o'r data os nad oes tystiolaeth arall i'w hategu.Casgliad data a dull cyfrifo
Hyd at 2011-12, mae'r awdurdodau lleol wedi bod yn casglu data trwy ddefnyddio un o ddau ddull.•Defnyddiodd y rhan fwyaf o'r awdurdodau system cronfa ddata i gofnodi manylion atgyfeiriadau unigol, a rhannwyd y rhain gyda Llywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn.
•Darparodd yr awdurdodau sy'n weddill y data ar ffurflen a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Ym mhob blwyddyn, mae'r ffurflen hon wedi gofyn am nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer cyfres o agweddau (e.e. categori nodweddion sy'n gwneud unigolyn yn agored i niwed, y math o gamdriniaeth, statws yr honiad ac yn y blaen), yn aml wedi eu rhannu fesul oedran a rhyw.
Ar gyfer y flwyddyn 2012-13 ymlaen, defnyddir un ffurflen ar gyfer casglu data gan bob awdurdod lleol. Ategir hon gan y canllawiau gwell a ddatblygwyd ar y cyd â chydgysylltwyr amddiffyn oedolion awdurdodau lleol.