Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ynglyn â honiadau o gamdriniaeth yn erbyn oedolion. Mae Llywodraeth Cymru'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu adroddiadau blynyddol ar amddiffyn oedolion, gan gynnwys data sy'n cyflawni safonau y cytunwyd arnynt yn gyffredin ac a bennwyd trwy 'Mewn Dwylo Diogel', a gyhoeddwyd yn 2000. Er y gwnaed ymdrechion eang i gasglu gwybodaeth ddibynadwy a chywir gan awdurdodau lleol, nid yw'r data yn berffaith. O ganlyniad, bydd angen bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau o'r data os nad oes tystiolaeth arall i'w hategu.
Casgliad data a dull cyfrifo
Ar gyfer y flwyddyn 2012-13 ymlaen, defnyddir un ffurflen ar gyfer casglu data gan yr holl awdurdodau lleol. Ategir hon gan y canllawiau gwell a ddatblygwyd ar y cyd â chydgysylltwyr amddiffyn oedolion awdurdodau lleol.
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2012-13.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad cysylltiedig, yn y ddolen i'r we a roddir.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o oedolion mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol * wedi'i nodi yn ei le.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Dim
Ansawdd ystadegol
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, neu gyda gwybodaeth ychwanegol ynglyn ag ansawdd a dulliau gwaith yn yr Adroddiad Ansawdd, yn y dolenni i'r we a roddir.