Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
Disgrifiad cyffredinol
Mae maethu preifat yn digwydd pan fydd plentyn dan 16 oed (dan 18 os yw'n anabl) yn derbyn gofal gan oedolyn, nad yw'n berthynas, trwy drefniant preifat rhwng rhiant a gofalwr sy'n parhau am 28 diwrnod neu fwy. Gallai gofalwyr maeth preifat fod o deulu estynedig y plentyn, e.e. cefnder neu hen fodryb. Fodd bynnag, ni fydd unigolyn sy'n berthynas yn ôl diffiniad Deddf Plant 1989, h.y. nain neu daid, brawd, chwaer, modryb neu ewythr neu lys-riant yn ofalwr maeth preifat. Gall gofalwr maeth preifat fod yn ffrind i'r teulu, rhiant i ffrind i'r plentyn, neu'n rhywun nad oedd teulu'r plentyn yn ei adnabod yn flaenorol, sy'n barod i faethu plentyn yn breifat.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cafodd y data eu cyflwyno i'r Tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r ffurflen yn ymwneud â chyfres helaeth o wiriadau dilysu er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn gywir ac yn gyson.