Rhif Atgynhyrchu COVID-19 yng Nghymru
Mae’r data hyn yn amcangyfrif o’r rhif atgynhyrchu (R) yn ystod pandemig COVID-19 ar gyfer Cymru.
None
|
Metadata
Teitl
Rhif Atgynhyrchu COVID-19 yng NghymruDiweddariad diwethaf
06/01/2023Diweddariad nesaf
Ni fydd yn diweddaru mwyachSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r data hyn yn amcangyfrif o’r rhif atgynhyrchu (R) yn ystod pandemig COVID-19 ar gyfer Cymru.Mae gwerth R o 1 yn golygu, ar gyfartaledd, y bydd pob person sydd wedi’i heintio yn heintio 1 person arall, gan olygu bod cyfanswm nifer yr heintiau yn sefydlog. Os yw R ar 2, ar gyfartaledd, bydd pob person heintiedig yn heintio 2 berson arall. Os mai 0.5 yw R, yna ar gyfartaledd ar gyfer pob 2 berson heintiedig, dim ond 1 person newydd fydd yn cael ei heintio. Os yw R yn fwy nag 1 yna mae’r epidemig yn tyfu, ac os yw R yn llai nag 1 mae’r epidemig yn lleihau. Y mwyaf y mae R yn uwch nag 1, y mwyaf o bobl y mae 1 person heintiedig yn eu heintio ac felly y cyflymaf y mae’r epidemig yn tyfu.
Daw’r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y cânt eu newid. Nid ydynt wedi bod trwy’r un prosesau dilysu â’r rhai a gynhelir ar gyfer datganiadau ystadegol swyddogol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae Cymru’n defnyddio amcangyfrifon Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) o werth R a’r gyfradd twf. Mae sawl grwp academaidd yn amcangyfrif y gwerth R a’r gyfradd twf eu hunain gan ddefnyddio ffrydiau data, technegau modelu a rhagdybiaethau gwahanol.I grynhoi ansicrwydd cynhenid gwerth R a’r gyfradd twf, caiff yr amcangyfrifon unigol eu cyfuno fel un ystod ar gyfer pob metrig sy’n seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd. Mae hefyd yn rhoi syniad o ddibynadwyedd yr amcangyfrif. Ar hyn o bryd, caiff y broses hon o gyfuno ei chynnal drwy ddefnyddio Meddalwedd CrystalCast gan UKHSA.