

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Nifer cronnus y profion antigenau PCR a'r canlyniadau yn ôl categori gweithiwr hanfodol neu breswylydd yn ôl awdurdodau lleol ers 18 Mai 2020Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
3 Chwefror 2020 ymlaenGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol.Ansawdd ystadegol
Gall cyfanswm nifer y profion a gwblhawyd fod yn wahanol i’r hyn sydd mewn tablau eraill a gyhoeddwyd oherwydd gwahanol amseroedd adrodd. Y data a gyflwynwyd yw’r cyfanswm cronnus ers wythnos 3 Chwefror 2020. At ddibenion y dadansoddiad hwn, wythnos yw 00:00 dydd Llun i 23.59 ddydd Sul.Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithiwr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl.
Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a thrigolion ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.
Mae'r data'n cynnwys profion a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru (labordai goleudy) ac felly nid yw’n cynnwys profion llif unffordd antigenau.
Mae lleoliad pob gweithiwr allweddol wedi’i seilio ar ei gartref os rhoddwyd yr wybodaeth honno, neu ei fan gwaith fel arall.
Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r ffigurau hyn. Nid yw'r profion wedi bod yn gyson dros amser, rhwng gwahanol weithwyr allweddol a gwahanol grwpiau o drigolion, na thrwy Gymru. Mae’r modd yr aethpwyd ati i brofi wedi newid mewn ymateb i ledaeniad y pandemig ac yn sgil newidiadau yn y ddealltwriaeth o’r risgiau i wahanol grwpiau, ac o ganlyniad i amrywiaeth yn y ffordd y gweithredir polisïau.
Eithriad i hyn yw’r sgrinio rheolaidd a gynhelir ar gyfer gweithwyr allweddol asymptomatig mewn cartrefi gofal. sy’n weddol gyson drwy Gymru erbyn hyn, ond a allai barhau i amrywio wrth ymateb i achosion lleol.
Ni fydd yr holl ganlyniadau sy'n ymwneud â gweithwyr allweddol a thrigolion wedi deillio o brofion cymunedol; er enghraifft mae rhai profion mewn ysbytai wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ymwneud â phreswylwyr cartrefi gofal. Gall hyn arwain at fwy o ganlyniadau positif yn y grwpiau hyn nag a fyddai'n cael ei weld fel arall.
Oherwydd y rhesymau a nodir uchod, ni chyngorir gwneud cymariaethau rhwng awdurdodau lleol.
Cafodd y porth cartrefi gofal ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol ddydd Gwener 28 Awst 2020 i gynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau – nid cartrefi gofal yn unig. Cyn hynny, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r categori lleoliad hwn i nodi profion ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal a phreswylwyr, fodd bynnag nid yw hyn yn bosibl ers iddo gael ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol. O 28 Awst 2020 ymlaen, defnyddiwyd y maes meddyg sy'n gofyn i nodi profion cartrefi gofal drwy Borth Trefniannol y DU, mae hyn yn ddibynnol ar ddefnyddio’r codau cywir, fel arall bydd y profion hyn yn cael eu cynnwys yn y categori gweithiwr allweddol neu breswylydd: arall neu heb ei nodi.
Ni fyddwn yn adolygu data y tu hwnt i 52 wythnos.
Dolenni'r we
https://llyw.cymru/data-o-brofion-ar-gyfer-coronafeirws-covid-19https://llyw.cymru/deall-data-ar-brofion-y-coronafeirws-covid-19