Neidio i'r cynnwys

Data o brofion ar gyfer coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth am nifer y profion antigenau, amseroedd prosesu profion antigenau, a nifer y profion gwrthgyrff.

O 1 Ebrill 2022 mae profi ar gyfer COVID-19 wedi newid. Mae profi cymunedol labordy y tu allan i Gymru a phrofi sefydliadau wedi dod i ben, ni all pobl archebu profion PCR cartref mwyach oni bai eu bod yn gymwys ar gyfer triniaethau Covid, ac mae safleoedd profi PCR ar gyfer y cyhoedd wedi cau. Felly, ni fydd y tablau hyn sy’n cynnwys data ar gyfer 3 Chwefror 2020 i 4 Ebrill 2022 yn cael eu diweddaru ymhellach. Mae data lefel Cymru ar gyfer profion a weinyddir yn parhau i gael eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru (gweler o dan ‘Dolenni’).