Nifer y profion gwrthgyrff a broseswyd yn labordai GIG Cymru
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Nifer y profion gwrthgyrff a broseswyd yn labordai GIG CymruDiweddariad diwethaf
13 Ebrill 2022Diweddariad nesaf
-Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd Cyhoeddus CymruFfynhonnell 2
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Nifer y profion a chanlyniadau gwrthgyrff wythnosol a awdurdodwyd gan labordai GIG Cymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol.Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
18 Mai 2020 ymlaenGwybodaeth am ddiwygiadau
Gwybodaeth reoli yw'r data, nid ystadegau swyddogol, ac fe'u hadolygir yn rheolaidd. Mae dangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol gyda'r data diweddaraf, gan gynnwys diwygiadau i'r data a gyhoeddir yma.Ers 13 Gorffennaf 2020, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru, a adroddwyd yn flaenorol ar wahân. Mae manylion pellach wedi'u cynnwys yn y datganiad sy'n amlinellu pa dablau a siartiau sy'n dangos profion sydd wedi'u hawdurdodi ar gyfer y ddau labordy neu ar wahân. Mae'r data wedi'u diwygio'n hanesyddol ac eithrio'r tabl atodiadol sy'n dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn ystod y 24 awr ddiwethaf i 1pm, sy'n adlewyrchu'r hyn a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddiwrnod penodol.
Yn ystod nos Wener 11 Rhagfyr 2020, cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud. Ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020, diweddarwyd ffigurau ar gyfer y cyfnod o 1pm ddydd Gwener 11 Rhagfyr 2020 i 9am ddydd Sul 13 Rhagfyr 2020, cyfanswm o 44 o oriau, fodd bynnag effeithiwyd ar lif data profion o System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl yr amser segur hwn, cafwyd cyfnod o gysoni a dilysu data sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau yn y cyhoeddiad hwn.
Ansawdd ystadegol
Gall cyfanswm nifer y profion a gwblhawyd fod yn wahanol i’r hyn sydd mewn tablau eraill oherwydd gwahanol amseroedd adrodd. At ddibenion y dadansoddiad hwn, wythnos yw 00:00 dydd Llun i 23.59 ddydd Sul.Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn adlewyrchu cipolwg mewn amser a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau profion gwrthgyrff: coronafirws (COVID-19) ar ein gwefan.
Os yw prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.
Cyn mis Rhagfyr 2020, cynhaliwyd profion gwrthgyrff gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru ar gyfer gwyliadwriaeth ar grwpiau allweddol sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Parhaodd y gwaith o brofi gweithwyr gofal cartref tan fis Ebrill 2021. Cynhwysir profion gwrthgyrff a gymerwyd am resymau diagnostig mewn ysbytai hefyd yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn.
Ni fyddwn yn adolygu data y tu hwnt i 52 wythnos.
Allweddeiriau
COVID-19, Coronafeirws, ProfionDolenni'r we
https://llyw.cymru/data-o-brofion-ar-gyfer-coronafeirws-covid-19https://llyw.cymru/deall-data-ar-brofion-y-coronafeirws-covid-19