Nifer y profion antigenau PCR a'r canlyniadau yn ôl categori gweithiwr hanfodol neu breswylydd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer y profion antigenau PCR a'r canlyniadau positif yn ôl categori gweithiwr hanfodol neu breswylyddDiweddariad diwethaf
13 Ebrill 2022Diweddariad nesaf
-Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Iechyd Cyhoeddus CymruCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
https://llyw.cymru/data-o-brofion-ar-gyfer-coronafeirws-covid-19https://llyw.cymru/deall-data-ar-brofion-y-coronafeirws-covid-19
Disgrifiad cyffredinol
Nifer y profion antigenau PCR a'r canlyniadau positif yn ôl categori gweithiwr hanfodol neu breswylydd.Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
16 Mawrth 2020 ymlaenAnsawdd ystadegol
Gall cyfanswm nifer y profion a gwblhawyd fod yn wahanol i’r hyn sydd mewn tablau eraill a gyhoeddwyd oherwydd gwahanol amseroedd adrodd. At ddibenion y dadansoddiad hwn, wythnos yw 00:00 dydd Llun i 23.59 ddydd Sul.Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithwyr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl.
Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a thrigolion ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.
Mae'r data'n cynnwys profion a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru (labordai goleudy) ac felly nid yw’n cynnwys profion llif unffordd antigenau.
Cafodd y porth cartrefi gofal ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol ddydd Gwener 28 Awst 2020 i gynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau – nid cartrefi gofal yn unig. Cyn hynny, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r categori lleoliad hwn i nodi profion ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal a phreswylwyr, fodd bynnag nid yw hyn yn bosibl ers iddo gael ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol. O 28 Awst 2020 ymlaen, defnyddiwyd y maes meddyg sy'n gofyn i nodi profion cartrefi gofal drwy Borth Trefniannol y DU, mae hyn yn ddibynnol ar ddefnyddio’r codau cywir, fel arall bydd y profion hyn yn cael eu cynnwys yn y categori gweithiwr allweddol neu breswylydd: arall neu heb ei nodi.
Rhwng yr wythnosau sy'n dechrau ar 14 Medi 2020 a 12 Hydref 2020, yn dilyn newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan Labordai nad sy’n rhan o GIG Cymru, roedd problemau o ran dyrannu data profi i wahanol lwybrau. Mae hyn bellach wedi'i ddatrys ac mae ateb parhaol ar waith sy'n cael ei adlewyrchu yn y data o'r wythnos sy'n dechrau ar 19 Hydref 2020. Roedd yr ateb dros dro a ddefnyddiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod yma yn gadarn, felly mae'r data'n gymharol.
Mae rhai digwyddiadau prawf peilot i arbrofi gyda chaniatáu i gynulleidfaoedd ddychwelyd i ddigwyddiadau byw yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolion sy’n bresennol gael prawf PCR negatif o fewn y 5 diwrnod cyn y digwyddiad. O 10 Mai 2021, bydd profion a gymerwyd gan breswylwyr o Gymru sy’n mynychu naill ai digwyddiad peilot Cymreig neu ddigwyddiad peilot Seisnig yn cael eu cynnwys yn y data yma.
Ni fyddwn yn adolygu data y tu hwnt i 52 wythnos.