Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Anheddau sydd wedi'u heithrio rhag treth gyngor, yn ôl dosbarth (nifer yr anheddau)
None
[Lleihau]Awdurdod[Hidlwyd]
-
Awdurdod 1[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
Measure1
Blwyddyn[Hidlwyd]
[Lleihau]Dosbarth yr eithriad[Hidlo]
-
-
Dosbarth yr eithriad 1
Cliciwch yma i ddidoli2013-14Cliciwch yma i ddidoli2014-15Cliciwch yma i ddidoli2015-16Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2019-20Cliciwch yma i ddidoli2020-21Cliciwch yma i ddidoli2021-22Cliciwch yma i ddidoli2022-23Cliciwch yma i ddidoli2023-24Cliciwch yma i ddidoli2024-25
[Lleihau]Cyfanswm pob eithriad54,32756,79056,50356,90956,06457,70060,00460,65057,74859,18660,22464,309
Cyfanswm pob eithriadA - Addasiadau newydd ac adeileddol3,3323,4463,8503,5993,6283,7793,9193,8993,6784,0693,6053,750
B - Annedd gwag sy'n eiddo I elusen45403728363944485841230159
C - Gwag ac heb ei ddodrefnu17,63519,76418,76318,71017,62117,65918,17817,43813,75814,86615,26814,311
D - Person cymwys yn y ddalfa188197166173150177183195206194176244
E - Cleifion mewn ysbyty neu gartref gofal3,0553,1092,9623,0113,0643,0743,1822,9953,1162,8282,8153,201
F - Yr eiddo yn wag yn dilyn marwolaeth5,3885,6045,4705,9035,8555,8396,2386,3777,1417,5438,1279,183
G - Eiddo na ellir ei feddiannu418399470455496462556700714579625571
H - Anheddau clerigwyr138133135117113104106105104104129130
I - Derbyn gofal449407407408381375352353444337300344
J - Darparu gofal1351201019611011611710413011010698
K - Yr annedd wedi ei adael yn wag gan fyfyrwyr4128472223218111191318
L - Ailfeddiannau860653514376351323275283162108151207
M - Neuaddau preswyl2,5612,5642,6962,7862,6982,6663,0793,3313,3993,3683,4643,547
N - Anheddau wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr yn unig13,87214,18214,66814,93415,18916,55516,85016,80216,61016,73416,88619,641
O - Eiddo'r weinyddiaeth amddiffyn941935924923914899870835824835791784
P - Llety I luoedd arfog ar ymweliad346379663323
Q - Anheddau gwag o ganlyniad I fethdaliad194134129837879644729191737
R - Lleoliadau carafan ac angorau202217238256271292238227194185173173
S - O dan 18 oed502415350326305314307323317351366392
T - Anecs sydd heb ei feddiannu221219223244260286313332356376389438
U - Person sydd â nam meddyliol difrifol3,5923,6573,7863,9123,9864,1194,6165,2185,3525,2915,3075,607
V - Llysgenhadon (o 1/4/97 ymlaen yn unig)022322011233
W - Anecs wedi ei feddiannu gan aelod dibynnol o'r teulu555561559541526511503527495470451471
X - Pobl sy'n gadael gofal.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol493646764830997

Metadata

Teitl

Anheddau sydd wedi'u heithrio o'r dreth gyngor

Diweddariad diwethaf

Ionwar 2024 Ionwar 2024

Diweddariad nesaf

Ionwar 2025

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Casgliad data am anheddau'r dreth gyngor (CT1), Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o anheddau'r dreth gyngor (ffurflen CT1). Mae data ar gael ynglyn â nifer yr anheddau sy'n gymwys ar gyfer y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf, wedi'u dadansoddi fesul band y dreth gyngor, gan gynnwys nifer yr adeiladau sy'n gymwys ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor.

Mae'r data yn cwmpasu Cymru ar gyfer pob blwyddyn ers 1996-7. Mae data ar gyfer blynyddoedd cynharach ar gael gan is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar gyfer hen ddosbarthau Cymru, a ad-drefnwyd ar 1 Ebrill 1996.

Mae'r arolwg wedi ei gynnal bob mis Hydref a mis Rhagfyr ers 1993-94. Mae canlyniadau ar gael yn gynnar ym mis Ionawr, tua thri mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol gyfeirio.

Mathau o esemptiad
A - Addasiadau newydd ac adeileddol
Annedd wag lle mae gwaith atgyweirio mawr yn ofynnol, ar y gweill, neu wedi'i gwblhau i'w gwneud yn gyfanheddol (mae "gwaith atgyweirio mawr" yn cynnwys gwaith atgyweirio adeileddol), neu lle mae addasiad adeileddol ar y gweill, neu wedi'i gwblhau. Nid yw'r eithriad yn berthnasol am fwy na: chyfnod parhaus o 12 mis, neu gyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth yn wag, ac yn diweddu chwe mis ar ôl diwrnod cwblhau'r gwaith dan sylw i raddau helaeth, pa un bynnag yw'r byrraf.
B - Annedd gwag sy’n eiddo i elusen
Annedd sy'n eiddo i fudiad elusennol, a ddefnyddiwyd ddiwethaf at ddibenion y mudiad ac sydd wedi bod yn wag ers llai na chwe mis, gan ddiystyru unrhyw un cyfnod o lai na chwe wythnos pan gafodd ei ddefnyddio.
C - Gwag ac heb ei ddodrefnu
Annedd sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o lai na 6 mis. Byddai annedd newydd yn y categori hwn ar ôl cyflwyno hysbysiad cwblhau.
D - Person cymwys yn y ddalfa
Annedd sy'n wag oherwydd bod y perchennog/tenant yn y carchar ac ati, ac mai'r eiddo fyddai unig neu brif breswylfa'r unigolyn pe na bai yn y ddalfa. Fodd bynnag, ar yr amod mai'r annedd oedd unig neu brif breswylfa flaenorol yr unigolyn, byddai'r eithriad yn dal i fod mewn grym pe bai'r unigolyn wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
E - Cleifion mewn ysbyty neu gartref gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant a bod yr unigolyn hwnnw'n glaf mewn ysbyty'r GIG neu ysbyty milwrol neu'n glaf mewn hostel, cartref nyrsio, cartref nyrsio iechyd meddwl neu gartref gofal preswyl yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Bydd y categori hwn yn dal i fod mewn grym cyn belled â bod yr unigolyn yn parhau i fod yn unigolyn absennol perthnasol.
F - Yr eiddo yn wag yn dilyn marwolaeth
Annedd wag sydd wedi bod yn wag ers dyddiad marwolaeth lle mae'r unig unigolyn sy'n gymwys ar gyfer yr annedd yn gymwys oherwydd ei fod yn ysgutor neu'n weinyddwr ac nad oes unigolyn cymwys arall mewn unrhyw gategori arall. Bydd y dosbarth hwn yn berthnasol am hyd at 6 mis, a dim mwy na 6 mis, ar ôl rhoi grant profiant neu lythyrau gweinyddu a diystyrir unrhyw un cyfnod o lai na chwe wythnos pan nad oedd yn wag.
G - Eiddo na ellir ei feddiannu
Annedd wag lle mae preswylio wedi'i wahardd gan y gyfraith neu sy'n cael ei gadw'n wag gan gamau a gymerwyd o dan Ddeddf Seneddol gyda golwg ar wahardd preswylio yn yr annedd neu ar gaffael yr annedd.
H - Anheddau clerigwyr
Annedd sy'n cael ei chadw'n wag er mwyn iddi fod ar gael i weinidog o unrhyw enwad crefyddol i'w defnyddio fel preswylfa i gyflawni ei ddyletswyddau ohoni.
I - Derbyn gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant ond bod yr unigolyn hwnnw nawr yn preswylio mewn lle, nad yw'n ysbyty nac yn gartref, at ddiben derbyn gofal ac ati a bod yr unigolyn wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
J - Darparu gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant ond bod yr unigolyn hwnnw nawr mewn lle arall yn darparu gofal personol i unigolyn arall a bod yr unigolyn cymwys wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
K - Yr annedd wedi ei adael yn wag gan fyfyrwyr
Annedd wag a ddefnyddiwyd ddiwethaf gan fyfyriwr/fyfyrwyr fel unig neu brif breswylfa a bod pob unigolyn cymwys yn fyfyriwr a naill ai wedi bod yn fyfyriwr am y cyfnod cyfan ers i'r annedd fod yn unig neu brif breswylfa ddiwethaf iddo/iddi, neu wedi dod yn fyfyriwr o fewn 6 wythnos ar ôl hynny.
L - Ailfeddiannau
Annedd wag sydd wedi'i hadfeddiannu gan y morgeisai o dan delerau'r morgais.
M - Neuaddau preswyl
Annedd sy'n neuadd breswyl a ddarperir yn bennaf fel llety i fyfyrwyr ac sydd naill ai'n eiddo i brifysgol neu sefydliad tebyg (gweler O.S. 1992/548) neu gorff elusennol, neu'n cael ei rheoli gan sefydliad o'r fath, neu fod yr annedd yn destun cytundeb lle y gall y sefydliad enwebu'r rhan fwyaf o breswylwyr y llety.
N - Anheddau wedi’u meddiannu gan fyfyrwyr yn unig
Annedd sy'n cael ei defnyddio gan y canlynol yn unig: myfyrwyr dros 18 oed; a/neu briod neu ddibynnydd myfyriwr nad yw'n Ddinesydd Prydeinig ac sydd wedi'i wahardd rhag cael cyflogaeth neu hawlio budd-daliadau; a/neu bobl o dan 20 oed sy'n astudio cwrs addysg cymwys neu gwrs addysg llawnamser, fel unig neu brif breswylfa neu fel llety yn ystod y tymor.
O - Eiddo’r weinyddiaeth amddiffyn
Annedd sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac a gedwir fel llety i'r lluoedd arfog, ac eithrio llety i luoedd sy'n ymweld.
P - Llety i luoedd arfog ar ymweliad
Annedd lle y mae o leiaf un unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor ar gyfer yr annedd yn aelod, neu'n ddibynnydd i aelod, o lu sy'n ymweld o dan Ran I o Ddeddf Lluoedd sy'n Ymweld 1952.
Q - Anheddau gwag o ganlyniad i fethdaliad
Annedd wag lle y mae'r unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor yn ymddiriedolwr mewn methdaliad.
R - Lleoliadau carafan ac angorau
Annedd sy'n llain heb garafán arno neu'n angorfa heb gwch ynddo.
S - O dan 18 oed
Annedd ag unigolyn/unigolion dan 18 oed yn unig yn byw ynddi.
T - Anecs sydd heb ei feddiannu
Annedd wag sy'n rhan o annedd arall, e.e. llety rhandy, nad oes modd ei gosod heb dorri rheolau cynllunio.
U - Person sydd â nam meddyliol difrifol
Annedd ag unigolyn/unigolion â nam meddyliol difrifol yn unig yn byw ynddi, neu ag unigolyn/unigolion â nam meddyliol difrifol ynghyd â myfyrwyr yn unig yn byw ynddi.
V - Llysgenhadon (o 1/4/97 ymlaen yn unig)
Annedd lle y mae o leiaf un unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor ar gyfer yr annedd yn ddiplomydd, yn unigolyn a fyddai'n elwa o freinryddid diplomyddol ac aelodau penodol o'u haelwyd. Ni chaiff yr unigolyn hwn fod yn Ddinesydd nac yn ddeiliad Prydeinig, sy'n byw'n barhaol yn y Deyrnas Unedig; ac ni chaiff fod ag unrhyw unig neu brif breswylfa arall yn y DU.
W - Anecs wedi ei feddiannu gan aelod dibynnol o’r teulu
Annedd, sy'n rhan o un eiddo, sy'n cynnwys dwy neu fwy o anheddau lle y mae perthynas dibynnol i breswylydd yr annedd arall yn byw.
X - Pobl sy'n gadael gofal
Annedd sy'n cael ei meddiannu gan un neu ragor o'r rhai sy'n gadael gofal; a lle mae pob preswylydd naill ai'n ymadawr gofal, yn berson perthnasol, neu'n berson â nam meddyliol difrifol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.

Dolenni'r we

Mae'r datganiadau ystadegol cysylltiedig ar gael trwy ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen we ganlynol:
https://gov.wales/statistics-and-research?lang=en
Mae adroddiad ansawdd ystadegol ynglyn â holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol ar gael ar y wefan ganlynol:
https://gov.wales/local-government-finance-statistics-quality-report


Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni i'r we

Allweddeiriau

Cyllid Llywodraeth Leol, Anheddau sydd wedi'u heithrio o'r dreth gyngor