Treth y Cyngor
Tâl a godir ar bob annedd domestig ar gyfer darparu gwasanaethau’r awdurdodau lleol yw’r dreth gyngor. Mae hyn yn cynnwys elfennau ar gyfer y cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, ynghyd ag elfennau ar gyfer awdurdod yr heddlu ac, os oes un yn bodoli, ar gyfer y cyngor cymuned lleol. Mae rhai pobl wedi’u heithrio rhag talu’r dreth gyngor ac mae rhai’n cael gostyngiad.