Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Anheddau sydd wedi'u heithrio rhag treth gyngor, yn ôl awdurdod lleol a dosbarth (nifer yr anheddau)
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Cod Ardal[Hidlo]
Measure1
[Lleihau]Dosbarth yr eithriad[Hidlo]
-
Dosbarth yr eithriad 1
[Lleihau]Awdurdod[Hidlo]
-
-
Awdurdod 1
[Lleihau]Cyfanswm pob eithriadCliciwch yma i ddidoliCyfanswm pob eithriad
Cliciwch yma i ddidoliA - Addasiadau newydd ac adeileddolCliciwch yma i ddidoliB - Annedd gwag sy'n eiddo I elusenCliciwch yma i ddidoliC - Gwag ac heb ei ddodrefnuCliciwch yma i ddidoliD - Person cymwys yn y ddalfaCliciwch yma i ddidoliE - Cleifion mewn ysbyty neu gartref gofalCliciwch yma i ddidoliF - Yr eiddo yn wag yn dilyn marwolaethCliciwch yma i ddidoliG - Eiddo na ellir ei feddiannuCliciwch yma i ddidoliH - Anheddau clerigwyrCliciwch yma i ddidoliI - Derbyn gofalCliciwch yma i ddidoliJ - Darparu gofalCliciwch yma i ddidoliK - Yr annedd wedi ei adael yn wag gan fyfyrwyrCliciwch yma i ddidoliL - AilfeddiannauCliciwch yma i ddidoliM - Neuaddau preswylCliciwch yma i ddidoliN - Anheddau wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr yn unigCliciwch yma i ddidoliO - Eiddo'r weinyddiaeth amddiffynCliciwch yma i ddidoliP - Llety I luoedd arfog ar ymweliadCliciwch yma i ddidoliQ - Anheddau gwag o ganlyniad I fethdaliadCliciwch yma i ddidoliR - Lleoliadau carafan ac angorauCliciwch yma i ddidoliS - O dan 18 oedCliciwch yma i ddidoliT - Anecs sydd heb ei feddiannuCliciwch yma i ddidoliU - Person sydd â nam meddyliol difrifolCliciwch yma i ddidoliV - Llysgenhadon (o 1/4/97 ymlaen yn unig)Cliciwch yma i ddidoliW - Anecs wedi ei feddiannu gan aelod dibynnol o'r teuluCliciwch yma i ddidoliX - Pobl sy'n gadael gofal
[Lleihau]Cyfanswm Awdurdodau Unedol3,75015914,3112443,2019,18357113034498182073,54719,6417843371733924385,607347199764,309
Cyfanswm Awdurdodau UnedolYnys Môn97133551093173148212063170103123135020161,344
Gwynedd2000419518035012412239252621,10410001115283017233,045
Conwy12707101022851166717110911090001527245020352,139
Sir Ddinbych740501610933920377091612300102315174017211,465
Sir y Fflint17007812130393273133183137000191512358037242,136
Wrecsam923635810848114520268920500262319261023462,030
Powys1270736615346619131520518017900111821182046172,097
Ceredigion1310243416027212214301366742000102711002982,125
Sir Benfro18005376117500991261836915701261417172024431,911
Sir Gaerfyrddin33501,028819139220944611542197003161639376033372,808
Abertawe23051,3915326972011740105201,0654,65900146251837809819,043
Castell-nedd Port Talbot31906941415139162315401332117100032023270014302,518
Pen-y-bont ar Ogwr1330425111382341651501160950001116253019351,414
Bro Morgannwg702349513944811120153842480013941244125251,726
Rhondda Cynon Taf49811,0972120768643921511122779000092716333014864,102
Merthyr Tudful663335114815531210305200021331050216821
Caerffili2680733913657495184010010700201528407020492,394
Blaenau Gwent821354637188718101004900013201320131941
Torfaen36691649872802844104050000917101360952969
Sir Fynwy4157198381329161040202801202119214040111,068
Casnewydd16507394106474166190160338005624923205592,214
Caerdydd309171,90738317683321525191391,14810,389291200525060724725215,999

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o anheddau'r dreth gyngor (ffurflen CT1). Mae data ar gael ynglyn â nifer yr anheddau sy'n gymwys ar gyfer y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf, wedi'u dadansoddi fesul band y dreth gyngor, gan gynnwys nifer yr adeiladau sy'n gymwys ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor.

Mae'r data yn cwmpasu Cymru ar gyfer pob blwyddyn ers 1996-7. Mae data ar gyfer blynyddoedd cynharach ar gael gan is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar gyfer hen ddosbarthau Cymru, a ad-drefnwyd ar 1 Ebrill 1996.

Mae'r arolwg wedi ei gynnal bob mis Hydref a mis Rhagfyr ers 1993-94. Mae canlyniadau ar gael yn gynnar ym mis Ionawr, tua thri mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol gyfeirio.

Mathau o esemptiad
A - Addasiadau newydd ac adeileddol
Annedd wag lle mae gwaith atgyweirio mawr yn ofynnol, ar y gweill, neu wedi'i gwblhau i'w gwneud yn gyfanheddol (mae "gwaith atgyweirio mawr" yn cynnwys gwaith atgyweirio adeileddol), neu lle mae addasiad adeileddol ar y gweill, neu wedi'i gwblhau. Nid yw'r eithriad yn berthnasol am fwy na: chyfnod parhaus o 12 mis, neu gyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth yn wag, ac yn diweddu chwe mis ar ôl diwrnod cwblhau'r gwaith dan sylw i raddau helaeth, pa un bynnag yw'r byrraf.
B - Annedd gwag sy’n eiddo i elusen
Annedd sy'n eiddo i fudiad elusennol, a ddefnyddiwyd ddiwethaf at ddibenion y mudiad ac sydd wedi bod yn wag ers llai na chwe mis, gan ddiystyru unrhyw un cyfnod o lai na chwe wythnos pan gafodd ei ddefnyddio.
C - Gwag ac heb ei ddodrefnu
Annedd sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o lai na 6 mis. Byddai annedd newydd yn y categori hwn ar ôl cyflwyno hysbysiad cwblhau.
D - Person cymwys yn y ddalfa
Annedd sy'n wag oherwydd bod y perchennog/tenant yn y carchar ac ati, ac mai'r eiddo fyddai unig neu brif breswylfa'r unigolyn pe na bai yn y ddalfa. Fodd bynnag, ar yr amod mai'r annedd oedd unig neu brif breswylfa flaenorol yr unigolyn, byddai'r eithriad yn dal i fod mewn grym pe bai'r unigolyn wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
E - Cleifion mewn ysbyty neu gartref gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant a bod yr unigolyn hwnnw'n glaf mewn ysbyty'r GIG neu ysbyty milwrol neu'n glaf mewn hostel, cartref nyrsio, cartref nyrsio iechyd meddwl neu gartref gofal preswyl yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Bydd y categori hwn yn dal i fod mewn grym cyn belled â bod yr unigolyn yn parhau i fod yn unigolyn absennol perthnasol.
F - Yr eiddo yn wag yn dilyn marwolaeth
Annedd wag sydd wedi bod yn wag ers dyddiad marwolaeth lle mae'r unig unigolyn sy'n gymwys ar gyfer yr annedd yn gymwys oherwydd ei fod yn ysgutor neu'n weinyddwr ac nad oes unigolyn cymwys arall mewn unrhyw gategori arall. Bydd y dosbarth hwn yn berthnasol am hyd at 6 mis, a dim mwy na 6 mis, ar ôl rhoi grant profiant neu lythyrau gweinyddu a diystyrir unrhyw un cyfnod o lai na chwe wythnos pan nad oedd yn wag.
G - Eiddo na ellir ei feddiannu
Annedd wag lle mae preswylio wedi'i wahardd gan y gyfraith neu sy'n cael ei gadw'n wag gan gamau a gymerwyd o dan Ddeddf Seneddol gyda golwg ar wahardd preswylio yn yr annedd neu ar gaffael yr annedd.
H - Anheddau clerigwyr
Annedd sy'n cael ei chadw'n wag er mwyn iddi fod ar gael i weinidog o unrhyw enwad crefyddol i'w defnyddio fel preswylfa i gyflawni ei ddyletswyddau ohoni.
I - Derbyn gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant ond bod yr unigolyn hwnnw nawr yn preswylio mewn lle, nad yw'n ysbyty nac yn gartref, at ddiben derbyn gofal ac ati a bod yr unigolyn wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
J - Darparu gofal
Annedd wag a oedd yn unig neu'n brif breswylfa'r perchennog neu'r tenant ond bod yr unigolyn hwnnw nawr mewn lle arall yn darparu gofal personol i unigolyn arall a bod yr unigolyn cymwys wedi bod yn unigolyn absennol perthnasol am y cyfnod cyfan.
K - Yr annedd wedi ei adael yn wag gan fyfyrwyr
Annedd wag a ddefnyddiwyd ddiwethaf gan fyfyriwr/fyfyrwyr fel unig neu brif breswylfa a bod pob unigolyn cymwys yn fyfyriwr a naill ai wedi bod yn fyfyriwr am y cyfnod cyfan ers i'r annedd fod yn unig neu brif breswylfa ddiwethaf iddo/iddi, neu wedi dod yn fyfyriwr o fewn 6 wythnos ar ôl hynny.
L - Ailfeddiannau
Annedd wag sydd wedi'i hadfeddiannu gan y morgeisai o dan delerau'r morgais.
M - Neuaddau preswyl
Annedd sy'n neuadd breswyl a ddarperir yn bennaf fel llety i fyfyrwyr ac sydd naill ai'n eiddo i brifysgol neu sefydliad tebyg (gweler O.S. 1992/548) neu gorff elusennol, neu'n cael ei rheoli gan sefydliad o'r fath, neu fod yr annedd yn destun cytundeb lle y gall y sefydliad enwebu'r rhan fwyaf o breswylwyr y llety.
N - Anheddau wedi’u meddiannu gan fyfyrwyr yn unig
Annedd sy'n cael ei defnyddio gan y canlynol yn unig: myfyrwyr dros 18 oed; a/neu briod neu ddibynnydd myfyriwr nad yw'n Ddinesydd Prydeinig ac sydd wedi'i wahardd rhag cael cyflogaeth neu hawlio budd-daliadau; a/neu bobl o dan 20 oed sy'n astudio cwrs addysg cymwys neu gwrs addysg llawnamser, fel unig neu brif breswylfa neu fel llety yn ystod y tymor.
O - Eiddo’r weinyddiaeth amddiffyn
Annedd sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac a gedwir fel llety i'r lluoedd arfog, ac eithrio llety i luoedd sy'n ymweld.
P - Llety i luoedd arfog ar ymweliad
Annedd lle y mae o leiaf un unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor ar gyfer yr annedd yn aelod, neu'n ddibynnydd i aelod, o lu sy'n ymweld o dan Ran I o Ddeddf Lluoedd sy'n Ymweld 1952.
Q - Anheddau gwag o ganlyniad i fethdaliad
Annedd wag lle y mae'r unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor yn ymddiriedolwr mewn methdaliad.
R - Lleoliadau carafan ac angorau
Annedd sy'n llain heb garafán arno neu'n angorfa heb gwch ynddo.
S - O dan 18 oed
Annedd ag unigolyn/unigolion dan 18 oed yn unig yn byw ynddi.
T - Anecs sydd heb ei feddiannu
Annedd wag sy'n rhan o annedd arall, e.e. llety rhandy, nad oes modd ei gosod heb dorri rheolau cynllunio.
U - Person sydd â nam meddyliol difrifol
Annedd ag unigolyn/unigolion â nam meddyliol difrifol yn unig yn byw ynddi, neu ag unigolyn/unigolion â nam meddyliol difrifol ynghyd â myfyrwyr yn unig yn byw ynddi.
V - Llysgenhadon (o 1/4/97 ymlaen yn unig)
Annedd lle y mae o leiaf un unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r dreth gyngor ar gyfer yr annedd yn ddiplomydd, yn unigolyn a fyddai'n elwa o freinryddid diplomyddol ac aelodau penodol o'u haelwyd. Ni chaiff yr unigolyn hwn fod yn Ddinesydd nac yn ddeiliad Prydeinig, sy'n byw'n barhaol yn y Deyrnas Unedig; ac ni chaiff fod ag unrhyw unig neu brif breswylfa arall yn y DU.
W - Anecs wedi ei feddiannu gan aelod dibynnol o’r teulu
Annedd, sy'n rhan o un eiddo, sy'n cynnwys dwy neu fwy o anheddau lle y mae perthynas dibynnol i breswylydd yr annedd arall yn byw.
X - Pobl sy'n gadael gofal
Annedd sy'n cael ei meddiannu gan un neu ragor o'r rhai sy'n gadael gofal; a lle mae pob preswylydd naill ai'n ymadawr gofal, yn berson perthnasol, neu'n berson â nam meddyliol difrifol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.

Teitl

Anheddau sydd wedi'u heithrio o'r dreth gyngor

Diweddariad diwethaf

Ionwar 2024 Ionwar 2024

Diweddariad nesaf

Ionwar 2025

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Casgliad data am anheddau'r dreth gyngor (CT1), Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Cyllid Llywodraeth Leol, Anheddau sydd wedi'u heithrio o'r dreth gyngor

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni i'r we

Dolenni'r we

Mae'r datganiadau ystadegol cysylltiedig ar gael trwy ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen we ganlynol:
https://gov.wales/statistics-and-research?lang=en
Mae adroddiad ansawdd ystadegol ynglyn â holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol ar gael ar y wefan ganlynol:
https://gov.wales/local-government-finance-statistics-quality-report