Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o anheddau'r dreth gyngor (ffurflen CT1). Mae data ar gael ynglyn â nifer yr anheddau sy'n gymwys ar gyfer y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf, wedi'u dadansoddi fesul band y dreth gyngor, gan gynnwys nifer yr adeiladau sy'n gymwys ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor.
Mae'r data yn cwmpasu Cymru ar gyfer pob blwyddyn ers 1996-7. Mae data ar gyfer blynyddoedd cynharach ar gael gan is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar gyfer hen ddosbarthau Cymru, a ad-drefnwyd ar 1 Ebrill 1996.
Mae'r arolwg wedi ei gynnal bob mis Hydref a mis Rhagfyr ers 1993-94. Mae canlyniadau ar gael yn gynnar ym mis Ionawr, tua thri mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol gyfeirio.
Tâl a godir ar bob annedd ddomestig am ddarparu gwasanaethau awdurdod lleol yw'r dreth gyngor. Mae'n cynnwys elfennau ar gyfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol, ynghyd ag elfennau ar gyfer yr awdurdod heddlu ac, os oes un yn bodoli, ar gyfer y cyngor cymuned lleol. Ym 1991, aseswyd yr eiddo yn ardal pob sir neu fwrdeistref sirol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a rhoddwyd pob annedd mewn band prisio, yn amrywio o A i H. Rhoddir anheddau mewn adeiladau newydd yn un o'r bandiau yn ôl gwerth annedd o'r fath ym 1991.
Ailbrisiwyd yr anheddau yn 2003 a diwygiwyd y bandiau ar gyfer y flwyddyn 2005-06 ymlaen. Dyma'r bandiau ar gyfer Cymru yn seiliedig ar brisiad 1991: A - Hyd at £30,000; B - £30,001 i £39,000; C - £39,001 i £51,000; D - £51,001 i £66,000; E - £66,001 i £90,000; F - £90,001 i £120,000; G - £120,001 i £240,000; H - £240,001 ac uwch. Dyma'r bandiau ar gyfer Cymru yn seiliedig ar brisiad 2003: A - o dan £44,000; B - £44,001 i £65,000; C - £65,001 i £91,000; D - £91,001 i £123,000; E - £123,001 i £162,000; F - £162,001 i £223,000; G - £223,001 i £324,000; H - £324,001 i £424,000; I - £424,001 ac uwch.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.