Cyfansoddiad treth gyngor band D gyfartalog, yn ôl haen
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Lefelau'r dreth gyngorDiweddariad diwethaf
Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Mawrth 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data Gofynion Cyllideb (BR1), Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cyllid@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Cyllid Llywodraeth Leol, band y dreth gyngorDisgrifiad cyffredinol
Mae'r dreth gyngor yn dâl a godir ar bob anedd domestig ar gyfer darparu gwasanaethau awdurdod lleol. Mae'n cynnwys elfennau ar gyfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol, yn ogystal ag elfennau ar gyfer awdurdod yr heddlu ac, os oes un yn bodoli, y cyngor cymuned lleol.Yn 1991, aseswyd yr eiddo ym mhob sir neu ardal fwrdeistref sirol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a gosodwyd pob anedd mewn bandiau prisio yn amrywio o A i H. Mae anheddau mewn adeiladau newydd yn cael eu gosod yn un o'r bandiau yn unol â'r hyn y byddai wedi bod werth yn 1991. Ailbrisiwyd yr anheddau yn 2003 ac adolygwyd y bandiau ar gyfer y flwyddyn 2005-06 ymlaen.
Y bandiau ar gyfer Cymru ar sail y gwaith prisio yn 1991 oedd:
A - Hyd at £30,000
B - £30,001 i £39,000
C - £39,001 i £51,000
D - £51,001 i £66,000
E - £66,001 i £90,000
F - £90,001 i £120,000
G - £120,001 i £240,000
H - £240,001 - Dim terfyn uchaf
Y bandiau ar gyfer Cymru ar sail gwaith prisio 2003 yw:
A - dan £44,000
B - £44,001 i £65,000
C - £65,001 i £91,000
D - £91,001 i £123,000
E - £123,001 i £162,000
F - £162,001 i £223,000
G - £223,001 i £324,000
H - £324,001 i £424,000
I - £424,001 ac uwch
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDolenni'r we
Mae'r datganiadau ystadegol cysylltiedig ar gael trwy ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen we ganlynol:https://llyw.cymru/lefelaur-dreth-gyngor
Mae adroddiad ansawdd ystadegol ynglyn â holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol ar gael ar y wefan ganlynol:
https://llyw.cymru/ystadegau-cyllid-llywodraeth-leol-adroddiad-ansawdd