Cyllidebau Ysgol Dirprwyedig fesul disgybl, yn ôl sector (£)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Gwariant wedi'i gyllidebu a ddirprwywyd i ysgolionDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data cyllideb adran 52 (S52B), Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cyllid@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
O dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu datganiad cyllideb cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Diben y datganiad yw darparu gwybodaeth am y gwariant y mae'r Awdurdod Lleol yn ei gynllunio ar addysg.Mae'r data yn yr adroddiadau yn deillio o ran 1 o Ddatganiadau Cyllideb Addysg Adran 52 a lenwir gan awdurdodau lleol.
Mae'n bwysig bod ysgolion ac eraill yn gallu cymharu cyllid er mwyn cyfrannu at y ddadl am lefelau cyllideb a materion fel cydbwysedd y cyllid rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.
Mae'r data a ddangosir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys cyllidebau sy'n cael eu dirprwyo neu eu datganoli i ysgolion ar ddechrau'r flwyddyn ariannol yn unig, ac nid yw'n cynnwys unrhyw arian a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol a'i wario ar ran ysgolion.
Dim ond o 2006/7 ymlaen y daeth ysgolion meithrin yn rhan o gyllidebau wedi'u dirprwyo felly nid ydynt wedi'u dangos fel rhan o'r data hyn ar gyfer y blynyddoedd cynharach.
Mae trefniadau safonol ar gyfer cyflwyno adroddiadau am gyllidebau yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau cysondeb wrth gasglu data ar gyfer Cymru gyfan. Mae awdurdodau lleol yn amrywio o ran demograffeg, ac yn ffisegol, yn gymdeithasol ac yn economaidd ac mae ganddynt strwythurau ac arferion gweithredu gwahanol.
Nifer y disgyblion
Mae hwn yn dangos nifer y disgyblion ym mhob ysgol neu nifer y lleoedd yn achos ysgolion arbennig.
Ar gyfer ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd, nifer y disgyblion cyfwerth ag amser llawn sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol yw hwn, fel y'i defnyddir i benderfynu ar gyllideb pob ysgol drwy fformiwla berthnasol yr awdurdod ar gyfer ariannu ysgolion.
Yn achos ysgol sydd ar agor am ran o'r flwyddyn, caiff y ffigur ei leihau i adlewyrchu'r cyfnod y mae'r ysgol ar agor. Er enghraifft, ar gyfer ysgol sydd ar agor am 7 mis o'r flwyddyn ariannol, caiff nifer y disgyblion eu lleihau gan ffactor o 7/12. Dyddiad y cyfrifiad ar gyfer casglu'r niferoedd hyn i ddibenion Datganiadau Adran 52 yw mis Ionawr bob blwyddyn.
Bydd y ffigyrau hyn yn wahanol i'r rhai hynny a gesglir gan ysgolion drwy'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae CYBLD yn casglu nifer y disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol ar ddiwrnod penodol ym mis Ionawr bob blwyddyn, o bob ysgol feithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Cyllidebau ysgolion unigol
Mae hwn yn dangos y gyllideb y penderfynwyd arni ar gyfer bob ysgol drwy fformiwla ariannu ysgolion perthnasol yr awdurdod. Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 yn nodi ei bod yn ofynnol i gyfrannau cyllideb gynnwys grantiau a delir gan Lywodraeth Cymru dan a.36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Yn achos ysgol sydd ar agor am ran o'r flwyddyn, y ffigur yw'r wir gyllideb y penderfynwyd arni ar gyfer yr ysgol.
Cyllideb ysgolion unigol fesul disgybl (£)
Mae hwn yn deillio o'r Gyllideb Ysgol Unigol wedi ei rannu gan nifer y disgyblion, gan roi swm y cyllid a ddarperir fesul disgybl ar gyfer pob ysgol feithrin, cynradd ac uwchradd. Ar gyfer ysgolion arbennig, hwn fydd swm y cyllid fesul lleoliad.
Cyllideb Anghenion Addysgol Arbennig Tybiannol
Defnyddir hwn i gofnodi'r swm yng nghyllideb pob ysgol feithrin, cynradd ac uwchradd y penderfynwyd arno trwy gyfeirio at yr amcangyfrif o'r angen i ddarparu ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig. Gosodir y ffigur hwn ar sero ar gyfer ysgolion arbennig oherwydd tybir bod yr holl ddarpariaeth i ysgolion o'r fath ar gyfer anghenion addysgol arbennig.
Cyllid nad yw o'r Gyllideb Ysgol Unigol a ddirprwyir i ysgolion
Defnyddir hwn i gofnodi unrhyw gyllid ychwanegol a neilltuir i'r ysgolion unigol (h.y. pan fo ysgolion yn rheoli sut y caiff y cyllid ei wario, sut bynnag y cyfrifir ar gyfer yr arian hwnnw a phan nad yw'r symiau wedi eu cynnwys yn y gyllideb fformiwla a gofnodir yng Nghyllideb yr Ysgol Unigol. Mae hwn yn cynnwys Cyllid Ysgolion Gwell a ddyrennir i bob ysgol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2002-03 ymlaen.Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDolenni'r we
Mae'r datganiadau ystadegol cysylltiedig ar gael trwy ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen we ganlynol:https://gov.wales/statistics-and-research?lang=en
Mae adroddiad ansawdd ystadegol ynglyn â holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol ar gael ar y wefan ganlynol:
https://gov.wales/local-government-finance-statistics-quality-report