Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyllidebau Ysgol Dirprwyedig yn ôl awdurdod (£ mil)
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure2
Colofn[Hidlo]
[Lleihau]AwdYsgol[Hidlo]
-
-
[Lleihau]AwdYsgol 1
-
-
[Lleihau]AwdYsgol 2
-
-
AwdYsgol 3
Cliciwch yma i ddidoliNifer y disgyblionCliciwch yma i ddidoliCyllideb ysgolion unigolCliciwch yma i ddidoliCyllid ysgolion unigol y disgybl (£)Cliciwch yma i ddidoliCyllideb tybiannol AAACliciwch yma i ddidoliCronfeydd nid ISB sy'n syrthio i'r ysgolion
[Lleihau]Wales456,2272,457,0825,386233,041279,480
Wales[Ehangu]Isle of Anglesey9,46755,8435,8995,4014,402
[Ehangu]Gwynedd16,46592,5995,6248,30310,152
[Ehangu]Conwy15,24085,5415,6136,7288,467
[Ehangu]Denbighshire15,58989,1345,7187,4114,783
[Ehangu]Flintshire22,441116,0855,17311,64916,610
[Ehangu]Wrexham18,438102,0205,53311,51210,751
[Ehangu]Powys16,30093,0555,7094,2064,283
[Ehangu]Ceredigion9,32451,1145,4828,3495,038
[Ehangu]Pembrokeshire16,77792,8395,53410,4546,394
[Ehangu]Carmarthenshire27,174143,3755,27618,29613,795
[Ehangu]Swansea34,805180,4825,18624,18417,178
[Ehangu]Neath Port Talbot20,018103,1595,1538,49614,486
[Ehangu]Bridgend22,926117,2645,1159,02714,124
[Ehangu]Vale of Glamorgan22,742122,9205,4057,44611,031
[Ehangu]Rhondda Cynon Taf37,771202,7475,3688,76625,451
[Ehangu]Merthyr Tydfil9,09948,7385,3573,2266,465
[Ehangu]Caerphilly26,357136,2055,1689,80022,723
[Ehangu]Blaenau Gwent8,80952,5635,9674,8745,631
[Ehangu]Torfaen13,42674,9615,5846,68210,135
[Ehangu]Monmouthshire11,38356,7654,9875,6685,447
[Ehangu]Newport26,669129,1274,84212,91921,071
[Ehangu]Cardiff55,009310,5475,64539,64641,063

Metadata

Teitl

Gwariant wedi'i gyllidebu a ddirprwywyd i ysgolion

Diweddariad diwethaf

Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2023

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Casgliad data cyllideb adran 52 (S52B), Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.cyllid@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

O dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu datganiad cyllideb cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Diben y datganiad yw darparu gwybodaeth am y gwariant y mae'r Awdurdod Lleol yn ei gynllunio ar addysg.

Mae'r data yn yr adroddiadau yn deillio o ran 1 o Ddatganiadau Cyllideb Addysg Adran 52 a lenwir gan awdurdodau lleol.

Mae'n bwysig bod ysgolion ac eraill yn gallu cymharu cyllid er mwyn cyfrannu at y ddadl am lefelau cyllideb a materion fel cydbwysedd y cyllid rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Mae'r data a ddangosir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys cyllidebau sy'n cael eu dirprwyo neu eu datganoli i ysgolion ar ddechrau'r flwyddyn ariannol yn unig, ac nid yw'n cynnwys unrhyw arian a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol a'i wario ar ran ysgolion.

Dim ond o 2006/7 ymlaen y daeth ysgolion meithrin yn rhan o gyllidebau wedi'u dirprwyo felly nid ydynt wedi'u dangos fel rhan o'r data hyn ar gyfer y blynyddoedd cynharach.

Mae trefniadau safonol ar gyfer cyflwyno adroddiadau am gyllidebau yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau cysondeb wrth gasglu data ar gyfer Cymru gyfan. Mae awdurdodau lleol yn amrywio o ran demograffeg, ac yn ffisegol, yn gymdeithasol ac yn economaidd ac mae ganddynt strwythurau ac arferion gweithredu gwahanol.

Nifer y disgyblion

Mae hwn yn dangos nifer y disgyblion ym mhob ysgol neu nifer y lleoedd yn achos ysgolion arbennig.

Ar gyfer ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd, nifer y disgyblion cyfwerth ag amser llawn sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol yw hwn, fel y'i defnyddir i benderfynu ar gyllideb pob ysgol drwy fformiwla berthnasol yr awdurdod ar gyfer ariannu ysgolion.

Yn achos ysgol sydd ar agor am ran o'r flwyddyn, caiff y ffigur ei leihau i adlewyrchu'r cyfnod y mae'r ysgol ar agor. Er enghraifft, ar gyfer ysgol sydd ar agor am 7 mis o'r flwyddyn ariannol, caiff nifer y disgyblion eu lleihau gan ffactor o 7/12. Dyddiad y cyfrifiad ar gyfer casglu'r niferoedd hyn i ddibenion Datganiadau Adran 52 yw mis Ionawr bob blwyddyn.

Bydd y ffigyrau hyn yn wahanol i'r rhai hynny a gesglir gan ysgolion drwy'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae CYBLD yn casglu nifer y disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol ar ddiwrnod penodol ym mis Ionawr bob blwyddyn, o bob ysgol feithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

Cyllidebau ysgolion unigol

Mae hwn yn dangos y gyllideb y penderfynwyd arni ar gyfer bob ysgol drwy fformiwla ariannu ysgolion perthnasol yr awdurdod. Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 yn nodi ei bod yn ofynnol i gyfrannau cyllideb gynnwys grantiau a delir gan Lywodraeth Cymru dan a.36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Yn achos ysgol sydd ar agor am ran o'r flwyddyn, y ffigur yw'r wir gyllideb y penderfynwyd arni ar gyfer yr ysgol.

Cyllideb ysgolion unigol fesul disgybl (£)

Mae hwn yn deillio o'r Gyllideb Ysgol Unigol wedi ei rannu gan nifer y disgyblion, gan roi swm y cyllid a ddarperir fesul disgybl ar gyfer pob ysgol feithrin, cynradd ac uwchradd. Ar gyfer ysgolion arbennig, hwn fydd swm y cyllid fesul lleoliad.

Cyllideb Anghenion Addysgol Arbennig Tybiannol

Defnyddir hwn i gofnodi'r swm yng nghyllideb pob ysgol feithrin, cynradd ac uwchradd y penderfynwyd arno trwy gyfeirio at yr amcangyfrif o'r angen i ddarparu ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig. Gosodir y ffigur hwn ar sero ar gyfer ysgolion arbennig oherwydd tybir bod yr holl ddarpariaeth i ysgolion o'r fath ar gyfer anghenion addysgol arbennig.

Cyllid nad yw o'r Gyllideb Ysgol Unigol a ddirprwyir i ysgolion

Defnyddir hwn i gofnodi unrhyw gyllid ychwanegol a neilltuir i'r ysgolion unigol (h.y. pan fo ysgolion yn rheoli sut y caiff y cyllid ei wario, sut bynnag y cyfrifir ar gyfer yr arian hwnnw a phan nad yw'r symiau wedi eu cynnwys yn y gyllideb fformiwla a gofnodir yng Nghyllideb yr Ysgol Unigol. Mae hwn yn cynnwys Cyllid Ysgolion Gwell a ddyrennir i bob ysgol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2002-03 ymlaen.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni i'r we

Dolenni'r we

Mae'r datganiadau ystadegol cysylltiedig ar gael trwy ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen we ganlynol:
https://gov.wales/statistics-and-research?lang=en
Mae adroddiad ansawdd ystadegol ynglyn â holl ddatganiadau ystadegol Cyllid Llywodraeth Leol ar gael ar y wefan ganlynol:
https://gov.wales/local-government-finance-statistics-quality-report


Allweddeiriau

Cyllid Llywodraeth Leol, cyllid ysgolion a ddirprwyir fesul disgybl