Rhestr etholwyr: Etholwyr yn ôl etholaethau Senedd Cymru a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r set ddata hon yn dangos nifer y bobl oedd wedi’u cofrestru ar y gofrestr etholwyr ar y dyddiad a ddangosir i bleidleisio mewn etholiad Senedd Cymru, a nifer y cyrhaeddwyr (person sy’n cyrraedd 18 oed (cyn 1 Rhagfyr 2020) neu 16 (o 1 Rhagfyr 2020) yn ystod y cyfnod mae’r gofrestr yn gyfredol, ac sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiad Senedd ar neu ar ôl ei ben-blwydd/phen-blwydd yn ddeunaw neu un ar bymtheg).Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi nodi nad ydy’r ystadegau hyn, fodd bynnag, yn adlewyrchu’r newidiadau am bwy sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020. O ganlyniad, nid yw cofrestriadau etholwyr llywodraeth leol 16 mlwydd oed a chyrhaeddwyr 15 mlwydd oed yng Nghymru wedi eu cynnwys yn yr ystadegau hyn. Mae hyn yn wir hefyd ar gyfer ystadegau cofrestriadau etholiadol Rhagfyr 2020 a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021. Rydym yn gweithio gyda’r ONS i gyhoeddi ystadegau wedi eu cywiro. Gweler gwefan yr ONS am ragor o wybodaeth (Dolenni'r we).
Er mwyn sicrhau bod y gofrestr etholwyr mor gyflawn a chywir ag oedd yn bosibl cyn cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol yn haf 2014, ym Mhrydain Fawr, yn lle cyhoeddi cofrestri etholwyr blynyddol ar 1 Rhagfyr 2013, fe'u cyhoeddwyd yng ngwanwyn 2014. Cyhoeddwyd y cofrestri etholwyr ar 10 Mawrth 2014 yng Nghymru.
Mae’r data wedi’u seilio ar ffiniau etholaethau'r Senedd a ddaeth i rym yn yr etholiadau ar 3 Mai 2007 gyda newidiadau wedi hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn saith ardal o dan Orchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau seneddol San Steffan a daeth i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o’r adeg hon ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng etholaethau seneddol San Steffan ac etholaethau Senedd Cymru. Mae hyn hefyd yn golygu, ar gyfer rhai etholaethau, nad yw’r data ar gyfer 2012 ymlaen yn gyson â’r data ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Nodir yr ardaloedd hyn yn y data.
Nodwch fod yr hawl i bleidleisio’n wahanol ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau seneddol San Steffan. Mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yng Nghymru hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd (a llywodraeth leol) ond nid yn etholiadau seneddol San Steffan, er enghraifft.
Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd i 16, gan olygu roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd yn 2021.
Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio.
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff y data eu casglu gan awdurdodau lleol fel rhan o ganfas blynyddol o etholwyr. Wedyn caiff y canlyniadau eu cydgasglu a'u cyhoeddi yn ôl ardal etholaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 1 Rhagfyr bob blwyddyn fel arfer.Yn 2012, cynhaliwyd y canfas blynyddol o etholwyr yn gynnar a chyhoeddwyd y rhestr etholwyr yn gynnar ar 16 Hydref er mwyn caniatáu ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2012.
Er mwyn sicrhau bod y gofrestr etholwyr mor gyflawn a chywir ag oedd yn bosibl cyn cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol yn haf 2014, ym Mhrydain Fawr, yn lle cyhoeddi cofrestri etholwyr blynyddol ar 1 Rhagfyr 2013, fe'u cyhoeddwyd yng ngwanwyn 2014. Cyhoeddwyd y cofrestri etholwyr ar 10 Mawrth 2014 yng Nghymru.
Mae cofrestrau etholiadol a gasglwyd ar 2 Mawrth 2020 wedi'u cynhyrchu i gefnogi adolygiad Ffiniau'r Etholaeth Seneddol sydd i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2023.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir y data i amcangyfrif maint etholiadol pob un o etholaethau'r Senedd ac i gynorthwyo ag unrhyw ymchwil a wneir cyn etholiadau perthnasol.Prif ddefnyddwyr y data hyn fydd Ymchwil y Senedd (wrth gynorthwyo holl Aelodau'r Senedd neu ASau dros etholaethau a rhanbarthau); ASau unigol a'u hymchwilwyr; Gweinidogion Cymru a staff eu swyddfeydd preifat; y cyfryngau; swyddogion y wasg a pholisi yn Llywodraeth Cymru; myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion; a dinasyddion, cwmnïau preifat, ac unigolion eraill sydd â diddordeb.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Nid yw'r data wedi'u talgrynnu.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Diwygiwyd data 2016 a 2017 ym mis Ebrill 2019 gan fod y data yn flaenorol wedi dangos etholwyr seneddol y Deyrnas Unedig. Mae’r data bellach yn dangos etholwyr y Senedd a llywodraeth leol er mwyn bod yn gyson â’r blynyddoedd blaenorol.Teitl
Cofrestriadau etholwyr yn ôl ardaloedd etholaethol a rhanbarthau etholiadol Senedd CymruDiweddariad diwethaf
Ebrill 2022Diweddariad nesaf
I'w gyhoeddiSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau Etholiadol y DU, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Etholaethau Senedd CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/elections/electoralregistration/topicspecificmethodology' target='newtab'>https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/elections/electoralregistration/topicspecificmethodologyhttps://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/elections/electoralregistration
https://llyw.cymru/cofrestr-etholiadol