Neidio i'r cynnwys

Cofrestr etholiadol

Nifer y bobl sydd wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol ac sydd felly â’r hawl I bleidleisio mewn ardal benodol.

Ers 2020 mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru wedi newid, gyda'r oedran pleidleisio wedi ei ostwng i 16. Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu gan swyddogion cofrestru etholiadol lleol yng Nghymru ac yna ei rhoi i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Ar hyn o bryd, nid yw'r wybodaeth hon yn cynnwys pob etholwr 16 oed a chyrhaeddwr 15 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Rydym yn parhau i weithio gyda'r SYG i ddatrys y mater hwn fel y gallwn gyhoeddi ystadegau wedi eu cywiro ar gyfer nifer etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru rhwng 2020 i 2023. Mae hyn yn golygu na allwn ddiweddaru ciwbiau ystadegau'r gofrestr etholiadol ar StatsCymru ar hyn o bryd.