Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru, am y cyfnod o 1991 ymlaen yn ôl rhyw a blwydd oedran, ynghyd â rhai grwpiau oedran cyfunedig.
Dylid nodi bod rhai newidiadau yn niffiniadau (yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau mudo) ar gyfer canol 2020 o gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019, a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar gyfer Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar Gyfrifiad 2021.
Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn seiliedig ar 30 Mehefin bob blwyddyn ers 1991.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir fan hyn eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir fan hyn yn adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).
Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol 2012 i ganol 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.
Ar 15 Gorffennaf 2024, cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 eu hadolygu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i roi cyfrif am yr amcangyfrifon diweddaraf o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.