

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (2009 ymlaen), yn ôl byrddau iechyd yng Nghymru, yn ôl blwydd oedran a rhywDiweddariad diwethaf
Ionawr 2023Diweddariad nesaf
Haf 2023Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y byrddau iechyd lleol yng Nghymru, am y cyfnod o 2009 ymlaen yn ôl rhyw a blwydd oedran, ynghyd â rhai grwpiau oedran cyfunedig.Dylid nodi bod rhai newidiadau yn niffiniadau (yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau ymfudo) ar gyfer canol 2020 o gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019, a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar gyfer Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar Gyfrifiad 2021.
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn seiliedig ar 30 Mehefin bob blwyddyn ers 2009.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir yma eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir yma'n adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2009 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol 2012 i ganol 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Dolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/midyearpopulationestimatesqmihttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/latest
https://cwmtafmorgannwg.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol