Amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol, cynnyrch ehangach haen uwch a grŵp oedran
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Poblogaeth at gyfer ardaloedd bach yng Nghymru (2001 - 2010), yn ôl bandiau oedran eang a rhywDiweddariad diwethaf
Rhagfyr 2019Diweddariad nesaf
Hydref 2019 (amodol)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach (SAPE), y Swyddfa Ystadegau CenedlaetholDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG), yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch (ACEHU) a’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 ac ar gael ar gyfer ffiniau daearyddol 2011 ACEHI, ACEHG ac ACEHU a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012.Cyflwynwyd Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE) yn 2004 er mwyn gwella’r ffordd yr adroddir ystadegau ardaloedd bach. Maent wedi’u hadeiladu o grwpiau o ardaloedd cynnyrch cyfrifiad, mae eu maint yn gyson ac nid yw eu ffiniau’n cael eu newid rhwng cyfrifiadau. Os oes modd cânt eu ffurfio o grwpiau o aelwydydd sy’n debyg yn gymdeithasol ac maent yn alinio â nodweddion lleol fel ffyrdd a rheilffyrdd. Mae cymaroldeb a sefydlogrwydd y ddaearyddiaeth yn un o’r prif fuddion i ddefnyddwyr ystadegau na all ardaloedd gweinyddol bach eraill fel wardiau neu blwyfi ei ddarparu.
Yn dilyn Cyfrifiad 2011, roedd angen rhai newidiadau i ffiniau ACE a chyhoeddwyd y set newydd o ACE ym mis Hydref 2012, er bod sefydlogrwydd y ddaearyddiaeth wedi cael ei gadw i raddau helaeth.
Mae tair lefel hierarchaidd o ACE ar gael yng Nghymru. Cynlluniwyd yr ACEHI i fod â phoblogaeth rhwng 1,000 a 3,000 yn 2011, ac mae 1,909 ohonynt yng Nghymru. Cynlluniwyd ACEHG fel casgliadau o ACEHI, mae ganddynt boblogaeth rhwng 5,000 a 15,000 yn 2011, ac mae 410 ohonynt yng Nghymru. Mae ACEHU yn gasgliadau o ACEHG a chawsant eu diffinio ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae 94 ohonynt yng Nghymru a dim ond yng Nghymru maent wedi’u diffinio.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ACE o’r adran daearyddiaeth ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (gweler y dolenni gwe). Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.