Amcanestyniadau o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Trwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegTeitl
Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sail 2014 ar gyfer Cymru, 2014 i 2039Diweddariad diwethaf
Medi 2016Diweddariad nesaf
Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach. Bydd hwn yn cael ei ddisodli gyda amcanestyniad yn y dyfodol.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 2
Amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sail 2014, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn ôl rhyw, blwyddyn sengl oedran a phob blwyddyn o’r flwyddyn sail sef 2014, trwy gyfnod yr amcanestyniad i 2039. Dyma'r pedwerydd set o amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddwyd ar gyfer y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.Nodwch fod yr amcanestyniadau'n mynd yn fwyfwy ansicr po bellaf yr ydym yn ceisio edrych i'r dyfodol.
Nodwch hefyd fod y ffigurau hyn yn wahanol i’r data ar gyfer Cymru yn yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol oherwydd mai prif nod amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yw cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol cadarn ar gyfer Cymru, sy’n adlewyrchu tueddiadau lleol yn y blynyddoedd diwethaf, ond mai prif ddiben yr amcanestyniadau cenedlaethol yw cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth cadarn ar gyfer Cymru sy’n adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r amcanestyniadau cenedlaethol ac amcanestyniadau awdurdodau lleol yn wahanol am ddau brif reswm:
1. Mae’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu tybiaethau yn amcanestyniadau awdurdodau lleol yn wahanol i’r rheiny a ddefnyddir yn yr amcanestyniadau cenedlaethol. Mae rhai o’r rhain oherwydd ffynonellau data ychydig yn wahanol.
Hefyd, er bod un set o dybiaethau o bosibl yn addas iawn ar gyfer tuedd genedlaethol, efallai na fydd defnyddio tybiaethau tebyg yn cynhyrchu canlyniadau dichonol bob amser ar gyfer yr holl ardaloedd awdurdodau lleol oherwydd y gwahanol natur a thueddiadau rhwng awdurdodau lleol.
2. Mae’r lefel ddaearyddol mae’r tybiaethau’n cael eu seilio a’u cymhwyso arni hefyd yn bwysig. Er enghraifft, nid yw’n briodol symio cyfraddau lleol (e.e. ffrwythlondeb) er mwyn cael cyfradd genedlaethol, ac felly bydd model sy’n gweithredu ar lefelau daearyddol gwahanol (ond yn defnyddio cyfraddau) yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol ar gyfer y lefelau daearyddol gwahanol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcangyfrifon o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ac yn cael eu seilio ar dybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau ac ymfudo. Mae'r tybiaethau'n cael eu seilio ar dueddiadau'r gorffennol. Nid yw amcanestyniadau ond yn awgrymu beth all ddigwydd os yw'r tueddiadau diweddar yn parhau. Nid yw amcanestyniadau a wneir fel hyn yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau'r boblogaeth yn y dyfodol, dosbarthiad a newid.Mae amcangyfrifon poblogaeth 2014 wedi cael eu defnyddio fel sail i amcanestyniadau'r awdurdodau lleol. Mae'r boblogaeth amcanestynedig ar gyfer 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth sail wedi'u seilio ar y boblogaeth breswyl arferol. Caiff preswylwyr arferol sydd oddi cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio. Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd y defnyddir diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol - y rheiny sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Ni chaiff ymfudwyr tymor byr (e.e. gweithwyr ymfudol o wledydd Dwyrain Ewrop) eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly ni chânt eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth.
Mae'r amcanestyniadau wedi'u seilio ar batrwm ymfudo tybiedig sydd wedi'i seilio ar estyn ymlaen y patrymau ymfudo cyfartalog dros y pum mlynedd diwethaf.
Cyhoeddir hefyd bedwar amrywiolyn ymfudo sy'n ymdrin â gwahanol senarios ymfudo, gan amrywio o amcangyfrif o ddim ymfudo, i amcangyfrif isel, i amcangyfrif uchel. Mae amcangyfrif arall sydd wedi'i seilio ar estyn ymlaen y patrymau ymfudo cyfartalog dros y deng mlynedd diwethaf hefyd ar gael (mae'r amrywiolion mewn set ddata ar wahân yn yr un rhan o StatsCymru