Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Amcanestyniadau o'r boblogaeth yn ôl cydrannau newid, awdurdod lleol a blwyddyn
None
Cod Ardal[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
Ardal 1[Hidlo]
Newidyn[Hidlwyd]
Measure1
Newid blywydd[Hidlo]
[Lleihau]Elfen[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Elfen 1
-
-
Elfen 2
Cliciwch yma i ddidoli2018 i 2019Cliciwch yma i ddidoli2019 i 2020Cliciwch yma i ddidoli2020 i 2021Cliciwch yma i ddidoli2021 i 2022Cliciwch yma i ddidoli2022 i 2023Cliciwch yma i ddidoli2023 i 2024Cliciwch yma i ddidoli2024 i 2025Cliciwch yma i ddidoli2025 i 2026Cliciwch yma i ddidoli2026 i 2027Cliciwch yma i ddidoli2027 i 2028Cliciwch yma i ddidoli2028 i 2029Cliciwch yma i ddidoli2029 i 2030Cliciwch yma i ddidoli2030 i 2031Cliciwch yma i ddidoli2031 i 2032Cliciwch yma i ddidoli2032 i 2033Cliciwch yma i ddidoli2033 i 2034Cliciwch yma i ddidoli2034 i 2035Cliciwch yma i ddidoli2035 i 2036Cliciwch yma i ddidoli2036 I 2037Cliciwch yma i ddidoli2037 I 2038Cliciwch yma i ddidoli2038 I 2039Cliciwch yma i ddidoli2039 I 2040Cliciwch yma i ddidoli2040 I 2041Cliciwch yma i ddidoli2041 I 2042Cliciwch yma i ddidoli2042 I 2043
[Lleihau]Poblogaeth ar ddiwedd y flwyddyn3,146,1573,154,0913,162,1173,170,0563,177,9673,185,8293,193,6093,201,2653,208,7013,215,8443,222,6703,229,2973,235,9133,242,3433,248,5583,254,6193,260,6603,266,6713,272,6263,278,4373,284,2953,290,3123,296,4653,302,7203,309,154
Poblogaeth ar ddiwedd y flwyddyn[Ehangu]Poblogaeth ar ddechrau'r cyfnod3,138,6313,146,1573,154,0913,162,1173,170,0563,177,9673,185,8293,193,6093,201,2653,208,7013,215,8443,222,6703,229,2973,235,9133,242,3433,248,5583,254,6193,260,6603,266,6713,272,6263,278,4373,284,2953,290,3123,296,4653,302,720
[Ehangu]Genedigaethau31,99432,55532,25431,92331,70131,59031,47831,37031,27231,19231,16731,20431,28331,40631,57031,75331,96132,20832,48132,76433,03133,25033,42133,54933,625
[Ehangu]Marwolaethau34,91835,76435,86536,00136,17136,38536,61336,85837,12837,43437,74138,06538,40038,72339,05139,38539,70639,99840,27540,55640,76340,92341,06641,19741,215
[Ehangu]Ymfudwyr net y DU3,7974,4904,9845,3655,7286,0046,2636,4916,6406,7336,7486,8347,0817,0937,0447,0407,1347,1487,0976,9506,9377,0377,1467,2507,371
[Lleihau]Mudwyr tramor net6,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,6536,653
Mudwyr tramor netFewnfudwyr dramor16,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,28116,281
Ymfudwyr tuag allan dramor9,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,6289,628
[Ehangu]Cyfanswm cyfradd ffrwythlondeb1.71.71.71.71.71.71.71.71.71.71.71.81.81.81.81.81.81.81.81.81.81.81.81.81.8
[Ehangu]Cymhareb marwoldeb safonedig105.8106.9105.8104.8103.8102.8101.8100.899.999.098.097.196.395.494.593.592.691.790.989.889.088.287.486.785.7
[Ehangu]Disgwyliad oes adeg geni80.079.980.080.180.280.380.580.680.780.880.981.181.281.381.481.581.781.881.982.082.182.282.382.482.6
[Ehangu]Poblogaeth Arbennig - garcharorion3,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,0703,070

Metadata

Teitl

Amcanestyniadau o'r boblogaeth yn ôl cydrannau newid, awdurdod lleol a blwyddyn, 2018 i 2043

Diweddariad diwethaf

Mawrth 2020 Mawrth 2020

Diweddariad nesaf

Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach. Bydd hwn yn cael ei ddisodli gan amcanestyniad yn y dyfodol.

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sail 2018, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r set ddata hon yn rhoi’r cydrannau newid sy’n rhan o gyfrifo’r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r data’n ymdrin â’r newid rhwng pob blwyddyn amcanestyniad olynol ac yn ymwneud â’r newid o ganol pob blwyddyn i ganol y flwyddyn ganlynol. Mae data’r flwyddyn gyntaf yn cynrychioli’r newid o’r flwyddyn sail sef canol 2018 i ganol 2019, trwy gyfnod yr amcanestyniad i ddangos y newid ar gyfer canol 2042 i ganol 2043. Dyma'r pumed set o amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddwyd ar gyfer y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Nodwch fod yr amcanestyniadau'n mynd yn fwyfwy ansicr po bellaf yr ydym yn ceisio edrych i'r dyfodol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcangyfrifon o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ac yn cael eu seilio ar dybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae'r tybiaethau'n cael eu seilio ar dueddiadau'r gorffennol. Nid yw amcanestyniadau ond yn awgrymu beth all ddigwydd os yw'r tueddiadau diweddar yn parhau. Nid yw amcanestyniadau a wneir fel hyn yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau'r boblogaeth yn y dyfodol, dosbarthiad a newid.

Mae amcangyfrifon poblogaeth 2018 wedi cael eu defnyddio fel sail i amcanestyniadau'r awdurdodau lleol. Mae'r boblogaeth amcanestynedig ar gyfer 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth sail wedi'u seilio ar y boblogaeth breswyl arferol. Caiff preswylwyr arferol sydd oddi cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio. Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd y defnyddir diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol - y rheiny sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Ni chaiff ymfudwyr tymor byr (e.e. gweithwyr ymfudol o wledydd Dwyrain Ewrop) eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly ni chânt eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth. Mae'r amcanestyniadau wedi'u seilio ar batrwm ymfudo tybiedig sydd wedi'i seilio ar estyn ymlaen y patrymau ymfudo cyfartalog dros y pum mlynedd diwethaf.

Cyhoeddodd y Prif Ystadegydd ddiweddariad ym mis Chwefror 2020, gan nodi’r newidiadau methodolegol a wnaed i’r amcanestyniadau is-genedlaethol ers yr amcanestyniadau is-genedlaethol sy’n seiliedig ar 2014. Roedd hyn yn cynnwys:
• newid y rhagdybiaethau ar gyfer mudo mewnol, fel eu bod yn seiliedig ar gyfraddau mudo yn hytrach na niferoedd sefydlog
• cyfyngu cyfanswm amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol, a rhai o’r cydrannau, ar gyfer y 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 a gyhoeddwyd gan yr ONS
Cyhoeddwyd diweddariad arall ym mis Gorffennaf 2020, yn datgan dyddiad cyhoeddi’r amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol diwygiedig, a’r penderfyniad i ddychwelyd i beidio â chyfyngu yr amcanestyniadau is-genedlaethol ar y rhai cenedlaethol.
Yn dilyn trafodaethau â grwp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP), gwnaethom y penderfyniad i ddychwelyd, yn rhannol, i’r fethodoleg flaenorol ar gyfer cyfrifo amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol drwy beidio â chyfyngu ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Gwnaed y penderfyniad i gyfyngu i'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn wreiddiol o ganlyniad i'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol anghywir ddangos tuedd wahanol i'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol. Fodd bynnag, gan nad yw hyn bellach yn wir, rydym wedi dychwelyd i'r fethodoleg wreiddiol o beidio â chyfyngu er mwyn darparu gwell parhad gydag amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol blaenorol, fel eu bod yn cael eu llywio'n bennaf gan dueddiadau lleol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a mudo.
Fodd bynnag, rydym wedi cadw'r newid a wnaed i'r tybiaethau ar gyfer mudo mewnol fel eu bod yn parhau i fod yn seiliedig ar gyfraddau mudo yn hytrach na niferoedd penodol. Ceir rhagor o wybodaeth yn y diweddariad.

Byddwn yn parhau i fireinio'r fethodoleg cyn ein amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol nesaf, gan ystyried adborth defnyddwyr.

Cyhoeddir hefyd ddau amrywiolyn sy'n ymdrin â gwahanol senarios ymfudo, amrywiolyn poblogaeth uchel ac amrywiolyn poblogaeth isel.

Amlder cyhoeddi

Bob dwy a pedair blynedd

Cyfnodau data dan sylw

Mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Gweler y datganiad ystadegol o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol trwy ddilyn y dolenni gwe.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Disodlodd y data hyn amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol 2014 ar gyfer Cymru fel yr amcangyfrifon ffurfiol o dwf y boblogaeth.

Ddydd Llun 18 Mai 2020, cyhoeddodd yr ONS nodyn ar eu gwefan i roi gwybod i ddefnyddwyr eu bod wedi darganfod gwall a oedd yn effeithio ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018. Roedd y gwall wedi ei achosi gan brosesu mudo rhwng Cymru a Lloegr yn anghywir, gan arwain at amcanestyniad poblogaeth canol-2028 oddeutu 65,000 yn rhy isel yng Nghymru, ac amcanestyniad poblogaeth 65,000 yn rhy uchel yn Lloegr.
Yn dilyn ymgynghori gyda’n grwp arbenigol am y goblygiadau i’n cynnyrch ystadegol a oedd yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018, penderfynom ni dynnu’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol a’r amcanestyniadau aelwydydd sy’n seiliedig ar 2018 oddi ar ein gwefan.
Cyhoeddodd yr ONS amcanestyniadau wedi eu cywiro ar gyfer Cymru ddydd Iau 11 Mehefin. Mae’r amcanestyniadau awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 sydd wedi eu cywiro ar gyfer Cymru. Mae gwybodaeth bellach am y cywiriadau ar gael yn yr , yn ogystal â dadansoddiad o sut mae’r amcanestyniadau hyn sydd wedi eu cywiro yn cymharu â’r amcanestyniadau gwreiddiol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y datganiad ystadegol o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol trwy ddilyn y dolenni gwe.

Allweddeiriau

Amcanestyniadau poblogaeth, mudo, newid naturiol, genedigaethau, marwolaethau