Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Awdurdod Cyllid Cymru Ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
None
Galwch heibio Caeau Hidlo Yma
Measure2
MesurMesur[Hidlo]
[Lleihau]Cyfnod amserDangosir y data yn ôl y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a\'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym.  Pan fydd rhan o flwyddyn yn cael ei dangos, caiff ei nodi gyda\'r ôl-ddodiad \'hyd yn hyn.\'[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Cyfnod amser 1
-
-
Cyfnod amser 2
Cliciwch yma i ddidoliNifer o drafodiadauCliciwch yma i ddidoliAd-daliadau treth cyfraddau uwch (£ miliynau)
[Ehangu]2018-191,98015.0
[Ehangu]2019-201,99016.5
[Ehangu]2020-211,79019.5
[Ehangu]2021-221,76023.9
[Ehangu]2022-231,42020.0
[Ehangu]2023-241,21016.2
[Ehangu]2024-2573010.8
[Lleihau]2025-26 (hyd yn hyn)Dim ond y flwyddyn hyd yn hyn a gynrychiolir yma.[Ehangu]Ebrill i Mehefin 2025-26100.1

Metadata

Teitl

Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch, yn ôl y dyddiad dod i rym

Diweddariad diwethaf

20 Mehefin 2025 20 Mehefin 2025

Diweddariad nesaf

7 Awst 2025

Sefydliad cyhoeddi

Awdurdod Cyllid Cymru

Ffynhonnell 1

Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyswllt ebost

data@acc.llyw.cymru

Dynodiad

Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 16Mehefin 2025.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiodd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodion a ddaeth i rym ar ôl 10 Hydref 2022.

Mae'r set ddata'n canolbwyntio ar drafodiadau preswyl sy’n gymwys i dderbyn ad-daliad cyfradd uwch ac mae'n cynnwys nifer y trafodiadau sy'n gymwys i dderbyn ad-daliad yn ogystal â gwerth cyfanredol yr ad-daliadau hynny, wedi'u dadansoddi yn ôl:
- chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiad gwreiddiol i rym

Pan hawlir ad-daliad am drafodiad preswyl cyfraddau uwch, diwygir y trafodiad gwreiddiol i fod yn drafodiad preswyl prif gyfradd.

Noder bod nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynir ar gyfer dyddiadau dod i rym diweddarach yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o’i gymharu â chyfnodau cynharach, nid oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Mae data ar yr amser a gymerir i hawlio ad-daliadau i'w weld yn y set ddata amgen sy'n cymharu chwarter y trafodiad gwreiddiol gyda’r chwarter y cymeradwyir yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.


Casgliad data a dull cyfrifo

Gweler y dolenni

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir y data yn ôl y mis, y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym. Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 agosaf ar gyfer y trafodiadau sy’n gymwys am ad-daliad, ac i’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth cyfanredol yr ad-daliadau.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni

Allweddeiriau

Treth Trafodiadau Tir; Treth