Treth Trafodiadau Tir
Fe wnaeth Treth Trafodiadau Tir (TTT) ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r Dreth Gymreig ddatganoledig hon.
Mae ACC yn cyhoeddi ystadegau ar TTT ar sail fisol, chwarterol a blynyddol.
Mae ein cyhoeddiadau misol ‘data yn unig’ yn darparu amcangyfrifon cychwynnol ar drafodiadau a threthi sy’n ddyledus ar y trafodiadau hynny. Gellir cael gwybodaeth bellach ar sut i ddehongli’r data yn y cyhoeddiad ystadegol y ceir dolen ato isod.
Mae ein cyhoeddiadau chwarterol a blynyddol yn darparu diweddariadau ac yn dadgyfuno’r data ymhellach lle bo’n bosibl. Gellir canfod ein cyhoeddiadau, sy’n cynnwys sylwebaeth, gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Adroddiadau
> Dolenni
Awdurdod Cyllid Cymru: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir (dolen allanol) | |
Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion (dolen allanol) |