Neidio i'r cynnwys

Trethi wedi’u datganoli i Gymru

Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yw awdurdod trethi Cymru. Mae’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r trethi cyntaf a ddatganolwyd i Gymru [Treth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi] o 1 Ebrill 2018.

Mae ACC yn cynhyrchu Ystadegau Swyddogol. Caiff ystadegau’n ymwneud â’r trethi datganoledig hyn eu cynhyrchu’n annibynnol gan dîm Dadansoddi data’r ACC. Mae’r safonau a’r polisïau ystadegol a ddefnyddir i greu’r ystadegau hyn ar gael gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Mae ystadegau ar y trethi datganoledig ar gael drwy glicio ar y dreth berthnasol.

Rydym yn croesawu adborth a sylwadau i ddatblygu ystadegau ar drethi datganoledig a gynhyrchir gan ACC. E-bost data@wra.gov.wales