Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Awdurdod Cyllid Cymru Ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad, Hydref i Rhagfyr 2023
None
[Lleihau]Effaith ar drethA yw\'r rhyddhad a hawliwyd yn effeithio ar y dreth sy\'n ddyledus?[Hidlwyd]
-
Effaith ar dreth 1[Hidlo]
[Lleihau]Cyfnod amserDangosir y data yn ôl y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a\'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym.  Pan fydd rhan o flwyddyn yn cael ei dangos, caiff ei nodi gyda\'r ôl-ddodiad \'hyd yn hyn.\'[Hidlwyd]
-
Cyfnod amser 1[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]Math o drafodiadMath y trafodiad[Hidlo]
-
Math o drafodiad 1
MesurMae\'r mesurau a gyflwynir yma yn ymwneud â\’r cyfrif o drafodiadau sydd wedi derbyn rhyddhad, amcangyfrif o\'r dreth a ryddhawyd, a chyfanswm y dreth sy\'n ddyledus ar y trafodiadau hynny ar ôl cymhwyso\’r rhyddhadau.[Hidlo]
[Lleihau]Math o ryddhadDyma grwpiad o\’r rhyddhadau i\'r pedwar categori mwyaf a phob rhyddhad arall.[Hidlo]
-
-
Math o ryddhad 1
[Lleihau]Pob trafodiadauCliciwch yma i ddidoliPob trafodiadau
Cliciwch yma i ddidoliPreswylCliciwch yma i ddidoliAmhreswyl
Nifer o drafodiadau[Lleihau]Pob rhyddhad340120460
Pob rhyddhadRhyddhad i elusennau12040150
Rhyddhad grwp206080
Rhyddhad tai cymdeithasol301040
Rhyddhad anheddau lluosog801090
Pob rhyddhad arall9020110
Treth yn ddyledus (£ miliwn)Dyma gyfanswm y dreth sy\'n ddyledus ar ôl i\'r rhyddhadau gael eu defnyddio.[Lleihau]Pob rhyddhad1.90.32.2
Pob rhyddhadRhyddhad i elusennau~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero
Rhyddhad grwp~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero
Rhyddhad tai cymdeithasol~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero~Represents a value which rounds to zero, but is not zero
Rhyddhad anheddau lluosog2.00.22.2
Pob rhyddhad arall*Represents a value that has been suppressed as it is not sufficiently large to present, or the tax due for a small number of transactions contributes to the majority of the cell value (dominance)*Represents a value that has been suppressed as it is not sufficiently large to present, or the tax due for a small number of transactions contributes to the majority of the cell value (dominance)0.1
Gwerth y dreth a ryddhawyd (£ miliynau)[Lleihau]Pob rhyddhad5.914.920.8
Pob rhyddhadRhyddhad i elusennau2.11.33.4
Rhyddhad grwp0.513.113.6
Rhyddhad tai cymdeithasol1.20.11.4
Rhyddhad anheddau lluosog1.50.11.5
Pob rhyddhad arall0.70.31.0

Metadata

Teitl

Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o ryddhad, math o drafodiad, effaith ar dreth, mesur a blwyddyn a chwarter dod i rym

Diweddariad diwethaf

25 Ionawr 2024 25 Ionawr 2024

Diweddariad nesaf

25 Ebrill 2024

Sefydliad cyhoeddi

Awdurdod Cyllid Cymru

Ffynhonnell 1

Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyswllt ebost

data@acc.llyw.cymru

Dynodiad

Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad. Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000.

Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan ACC erbyn diwedd 15 Ionawr 2024.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiodd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodion a ddaeth i rym ar ôl 10 Hydref 2022.

Mae'r set ddata yn canolbwyntio ar y trafodiadau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad yn unig, ac mae'n cynnwys dadansoddiad yn ôl:
- math o ryddhad: y pedwar prif gategori o ryddhad ynghyd â chategori 'arall' ar gyfer y gweddill
- math o drafodiad: preswyl, amhreswyl
- disgrifiad o'r trafodiad: trawsgludiad/trosglwyddo perchenogaeth, rhoi les newydd, aseinio les
- effaith ar y dreth sy'n ddyledus: oes, na
- mesur: nifer y trafodiadau, amcangyfrifon o werth y dreth a gaiff ei rhyddhau o ganlyniad, a'r dreth sy'n ddyledus ar y trafodiadau
- y chwarter blwyddyn a'r flwyddyn mewn grym.

Gellir hawlio rhyddhadau ar eiddo preswyl ac amhreswyl. Mae rhyddhadau’n gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir cymhwyso sawl rhyddhad ar gyfer un trafodiad a gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus i sero (a elwir yn rhyddhad llawn) neu o ganran neu swm penodol (a elwir yn rhyddhad rhannol).

Yn blaenorol, gwnaethom hepgor trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau o’r set data hwn. Roedd hyn er mwyn i ni allu gwneud dadansoddiad pellach o'r trafodiadau hyn. Rydym bellach wedi cynnal y dadansoddiad hwn ac mae gennym lefel resymol o hyder yn ansawdd y data hyn. Rydym bellach wedi ychwanegu trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau yn y set data hwn, gan adolygu'r holl ddata yn ôl i Ebrill 2018. Mae hyn wedi ychwanegu tua 60 i 70 o drafodiadau a ryddhawyd i bob chwarter, a chyfartaledd o £4 miliwn i £5 miliwn i bob chwarter yn rhyddhadau.

Weithiau, caiff rhyddhadau eu hawlio pan na fydd yn cael unrhyw effaith ar y dreth sy'n ddyledus. Gellir gweld y rhain ar wahân yn y set ddata hon ac mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n cwblhau'r ffurflenni treth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn enghraifft 4 y wybodaeth allweddol am ansawdd sydd i’w chael yn y dolenni gwe.

Mae'r enghraifft honno hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Disgwylir newidiadau pellach yn y dyfodol, ac felly disgwylir i’r niferoedd a ddangosir yma ar gyfer rhyddhadau nad ydynt yn effeithio ar y dreth sy'n ddyledus gael eu diwygio yn y dyfodol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Gweler y dolenni

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir y data yn ôl y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym. Pan fydd rhan o flwyddyn yn cael ei dangos, caiff ei nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, ac i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth a ryddhawyd a threth sy’n ddyledus.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Allweddeiriau

Treth Trafodiadau Tir; Treth

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni