O 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Tirlenwi yng Nghymru gan Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chaiff ei chasglu a’i rheoli gan yr Awdurdod, yr awdurdod treth newydd ar gyfer Cymru.
Derbyniodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017. Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae’n daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd. Mae'r dreth yn cymell dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i ddulliau eraill llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.
Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gyda’r Awdurdod ar gyfer dychwelyd ffurflen Treth Gwarediadau Tir, y mae’n rhaid iddi gael ei derbyn erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul: - cyfradd treth: gwastraff rhyddhad neu ddisgownt, cyfradd safonol, a chyfradd is (yn cynnwys dadansoddiad ar gyfer gronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW)) - mesur: treth yn ddyledus a phwysau a waredwyd - cyfnod adrodd (blwyddyn a chwarter)
Mae gwastraff rhyddhad neu ddisgownt yn cynnwys pwysau dwr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi. Y dreth sy'n ddyledus yw'r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dwr, nad yw’n cael ei drethu.
Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
Mae amcangyfrifon chwarterol a blynyddol yn cynnwys, yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu Treth Gwarediadau Tirlenwi, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 1,000 tunnell agosaf ac i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data yn yr un datganiad yn un dros dro ar hyn o bryd a gallai gael ei ddiwygio mewn datganiadau yn y dyfodol i roi cyfrif am ddiweddariadau i ffurflenni, er enghraifft yn dilyn gwiriadau lliniaru ac adfer arferol a wneir gan Awdurdod Cyllid Cymru.