Neidio i'r cynnwys

Treth Gwarediadau Tirlenwi

Fe wnaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ddisodli’r Dreth Tirlenwi yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r Dreth Gymreig ddatganoledig hon.

Mae ACC yn cyhoeddi ystadegau ar TGT ar sail chwarterol a blynyddol.

Mae ein hystadegau chwarterol yn cynnwys data cryno ar: y pwysau a’r dreth sy’n ddyledus ar warediadau awdurdodedig, yn ôl cyfradd y dreth; pwysau’r deunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt; a, nifer y gweithredwyr safleoedd tirlenwi a safleoedd awdurdodedig yng Nghymru. Gellir canfod ein cyhoeddiadau, sy’n cynnwys sylwebaeth, gan ddefnyddio’r ddolen isod.