Nifer o ymweliadau twristiaeth undydd i Gymru, a'r gwariant ar yr ymweliadau.
Casgliad data a dull cyfrifo
Y ffurf ar arolwg 20176 yw rhyw 35,000 cyfweliad ar-lein ledled Prydain. Roedd cyfweliadau ychwanegol (cyfanswm o dua 5,000) ymhlith trigolion Cymru er mwyn galluogi dadansoddiadau manylach maes o law.
Cynhelir Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS) ar y cyd gyda Visit England a Visit Scotland a dyma ffynhonnell ystadegau swyddogol ar ymweliadau undydd gan drigolion Prydain Fawr â chyrchfannau ledled Prydain. 2017 yw seithfed flwyddyn yr arolwg. Fe’i seilir ar 35,000 o gyfweliadau ar-lein ledled Prydain mewn 52 o donnau wythnosol yn ystod yn flwyddyn. Amlheir y sampl ar gyfer trigolion Cymru i 5,000 o gyfweliadau er mwyn caniatau dadansoddiad eilaidd manylach maes o law. Oherwydd y newid o ddatgan ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn i ddatganiadau seiliedig ar gyfartaleddau treigl 12 mis, nid yw’n bosibl cymharu’r datganiad yma â datganiadau a gyhoeddwyd cyn Mai 2016. Mae’n bosibl cymharu’r datganiad yma â datganiadau ar ôl Mai 2016, ac â’r datganiadau a gyhoeddwyd gan Visit England sydd ar gael ar wefan Visit Britain.