Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Teithiau bysiau lleol (gwirioneddol a ragamcanwyd) yn ôl blwyddyn - ddim wedi ei diweddaru
Siart cyfateb i'r tabl data
None
Galwch heibio Caeau Hidlo Yma
Measure1
Siwrneiau teithwyrMiliynau[Hidlo]
Blwyddyn(Esgynnol)[Hidlo]
Cliciwch yma i ddidoliTeithiau gwirioneddolCliciwch yma i ddidoliTeithiau a ragamcanwydCliciwch yma i ddidoliPellter cyfartalog teithiau
1986-87152.0152.0152.0
1987-88156.0149.6150.3
1988-89161.0147.2148.6
1989-90151.0144.8146.9
1990-91145.0142.4145.2
1991-92133.0140.0143.5
1992-93129.0137.6141.8
1993-94133.0135.2140.1
1994-95132.0132.8138.4
1995-96130.0130.4136.7
1996-97133.0128.0135.0
1997-98122.0125.6133.3
1998-99118.0123.2131.6
1999-00117.0120.8129.9
2000-01119.0118.4128.2
2001-02108.0116.0126.5
2002-03115.0113.6124.8
2003-04116.0111.2123.1
2004-05123.0108.8121.4
2005-06120.0106.4119.7
2006-07118.8104.0118.0
2007-08125.3101.6116.3
2008-09129.899.2114.6
2009-10116.996.8112.9
2010-11115.794.4111.2
2011-12115.792.0109.5
2012-13108.889.6107.8
2013-14107.287.2106.1
2014-15101.184.8104.4
2015-16101.382.4102.7
2016-1799.680.0101.0
2017-18.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol

Metadata

Teitl

Teithiau bysiau lleol (gwirioneddol a ragamcanwyd) yn ôl blwyddyn

Diweddariad diwethaf

Chwefror 2018 Chwefror 2018

Diweddariad nesaf

Chwefror 2019 (Provisional)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg o Gerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus, Yr Adran Drafnidiaeth

Cyswllt ebost

ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn manylu ar nifer y teithiau gan deithwyr ar fysiau a choetsis yng Nghymru yn ôl blwyddyn hyd at flwyddyn ariannol 2016-17. Cyflwynir y data ar ffurf nifer y teithiau gan deithwyr, nifer y teithiau a ragamcanwyd, a nifer y teithiau gwirioneddol (miliynau) yng Nghymru.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag achosion yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Ystadegau bysiau'r Adran Drafnidiaeth yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o ddata swyddogol am y diwydiant bysiau ym Mhrydain ac fe'u defnyddir y tu mewn a'r tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn darparu data sy'n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, i ddatblygu polisi ac i sichrau atebolrwydd am y cymhorthdal a roddir i'r diwydiant ar lefel uchel.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae'r data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bosibl y bydd data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu'r flwyddyn galendr gyfredol yn cael eu diwygio pan ryddheir set ddata'r flwyddyn nesaf.

Allweddeiriau

Teithiau bysiau lleol

Ansawdd ystadegol

Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.

Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.

Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.

Dolenni'r we

Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus: Datganiad Ystadegol http://gov.wales/statistics-and-research/public-service-vehicles/?skip=1&lang=cy