Mynegai teithiau bws lleol yn ôl gwlad y DU a Llundain a fesul blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Nifer y teithiau ar fysiau lleol yn ôl gwlad, lle mae Lloegr yn cynnwys Llundain a heb fod yn cynnwys Llundain, yn ôl blwyddynDiweddariad diwethaf
Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Ebrill 2025 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg o Gerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus, Yr Adran DrafnidiaethCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
Prydain FawrCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Teithiau gan deithwyr, Mynegeion prisiau, Canran y newid, FysiauDolenni'r we
Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus: Datganiad Ystadegol http://gov.wales/statistics-and-research/public-service-vehicles/?skip=1&lang=cyDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn manylu ar deithiau bysiau lleol yn ôl blwyddyn hyd at flwyddyn ariannol 2022-23, lle mae Lloegr yn cynnwys Llundain neu heb fod yn cynnwys Llundain. Cyflwynir data am nifer y teithiau bysiau lleol ar ffurf canran lle mae pob blwyddyn yn cael ei chymharu â theithiau ym 1999-2000, sy'n cael ei bennu’n 100 y cant.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag achosion yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Ystadegau bysiau'r Adran Drafnidiaeth yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o ddata swyddogol am y diwydiant bysiau ym Mhrydain ac fe'u defnyddir y tu mewn a'r tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn darparu data sy'n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, i ddatblygu polisi ac i sichrau atebolrwydd am y cymhorthdal a roddir i'r diwydiant ar lefel uchel.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bosibl y bydd data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu'r flwyddyn galendr gyfredol yn cael eu diwygio pan ryddheir set ddata'r flwyddyn nesaf.Ansawdd ystadegol
Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.
Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.