Teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddynDiweddariad diwethaf
Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Ebrill 2025 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg o Gerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus, Yr Adran DrafnidiaethCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn manylu ar deithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddyn hyd at flwyddyn ariannol 2022-23. Cyflwynir y data ar ffurf nifer y teithiau gan deithwyr fesul pen o'r boblogaeth ac ar ffurf canran y newidiadau o gymharu â'r flwyddyn gynt.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag achosion yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Ystadegau bysiau'r Adran Drafnidiaeth yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o ddata swyddogol am y diwydiant bysiau ym Mhrydain ac fe'u defnyddir y tu mewn a'r tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn darparu data sy'n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, i ddatblygu polisi ac i sichrau atebolrwydd am y cymhorthdal a roddir i'r diwydiant ar lefel uchel.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bosibl y bydd data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu'r flwyddyn galendr gyfredol yn cael eu diwygio pan ryddheir set ddata'r flwyddyn nesaf.Allweddeiriau
Teithiau gan deithwyr, Mynegeion prisiau, Canran y newid, Fysiau, ChoetsisAnsawdd ystadegol
Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.
Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.