Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Chanran newid yn gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru a Phrydain yn ôl blwyddyn
None
Galwch heibio Caeau Hidlo Yma
Measure1
Gwlad[Hidlo]
PrisFel y\'i mesurir gan fynegai prisiau manwerthu[Hidlo]
Mynegai neu ganran[Hidlwyd]
Blwyddn[Hidlo]
[Lleihau]Cymru[Lleihau]Prydain Fawr
[Lleihau]Cliciwch yma i ddidoliPris cyfredol[Lleihau]Cliciwch yma i ddidoliPris cyson[Lleihau]Cliciwch yma i ddidoliPris cyfredol[Lleihau]Cliciwch yma i ddidoliPris cyson
Cliciwch yma i ddidoliCanran y newidCliciwch yma i ddidoliCanran y newidCliciwch yma i ddidoliCanran y newidCliciwch yma i ddidoliCanran y newid
1995-999.00-999.00-999.00-999.00
19961.60-0.944.551.93
19974.132.385.313.54
19986.995.255.233.52
19994.853.134.532.82
20006.655.973.342.68
20015.454.504.043.10
20024.643.062.721.16
20033.361.803.171.61
20044.573.424.763.61
20054.372.417.065.05
20065.002.607.905.40
20076.191.272.32-2.37
20085.381.642.72-1.07
20096.647.018.559.04
20102.71-1.774.790.27
20111.09-3.964.81-0.45
20125.922.256.072.35
20136.823.494.671.41
20141.57-0.903.090.60
20154.203.273.222.30
20160.43-1.111.860.29
2017Nid yw mynegai prisiau manwerthu 2017 wedi\'i ddiweddaru gan fod y defnydd o\'r mesur hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd0.49-2.571.77-1.33
20183.568.113.277.81
20193.221.293.131.20
20203.491.940.82-0.70
20210.00-0.711.490.77
20220.00-6.563.26-3.52
20233.01-6.40-1.58-10.58

Metadata

Teitl

Mynegeion prisiau tocynnau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol a chanran y newid yng Nghymru a Phrydain yn ôl blwyddyn

Diweddariad diwethaf

Ebrill 2024 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

Ebrill 2025 (Dros Dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg o Gerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus, Yr Adran Drafnidiaeth

Cyswllt ebost

ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Mynegeion prisiau, Canran y newid, Fysiau, Choetsis

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn manylu ar fynegeion prisiau tocynnau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol ac ar ganran y newid yng Nghymru ac ym Mhrydain yn ôl blwyddyn hyd at 2023. Cyflwynir y data ar ffurf y fynegai (canran) lle mae'r fynegai yn 2005 yn 100 y cant, neu ar ffurf canran y newid o gymharu â'r flwyddyn gynt yng Nghymru ac ym Mhrydain.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag achosion yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Ystadegau bysiau'r Adran Drafnidiaeth yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o ddata swyddogol am y diwydiant bysiau ym Mhrydain ac fe'u defnyddir y tu mewn a'r tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn darparu data sy'n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, i ddatblygu polisi ac i sichrau atebolrwydd am y cymhorthdal a roddir i'r diwydiant ar lefel uchel.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae'r data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bosibl y bydd data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu'r flwyddyn galendr gyfredol yn cael eu diwygio pan ryddheir set ddata'r flwyddyn nesaf.

Ansawdd ystadegol

Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.

Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.

Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.

Dolenni'r we

Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus: Datganiad Ystadegol http://gov.wales/statistics-and-research/public-service-vehicles/?skip=1&lang=cy