Damweiniau ffyrdd a gofnodwyd yn ôl difrifoldeb ac ardal
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Damweiniau ffyrdd yn ôl difrifoldeb, ardaloedd awdurdod lleol a heddlu CymruDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2020Diweddariad nesaf
heb ei ddiweddaruSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System adroddiadau damweiniau ffyrdd, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r ystadegau'n cyfeirio at y nifer a gafodd eu hanafu neu eu lladd mewn damweiniau anaf personol ar ffyrdd cyhoeddus y cafodd yr heddlu eu hysbysu yn eu cylch ac a gyfeiriwyd ymlaen at sylw Llywodraeth Cymru. Mae Data Damweiniau Ffordd yn cynnwys manylion y ddamwain, nifer y cerbydau yn y ddamwain a gwybodaeth am y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd. Mae data damweiniau'n cynnwys: y disgrifiad a'r lleoliad, y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd, difrifoldeb y ddamwain, y math o ffordd a ffactorau cyfrannol. Disgrifiad o'r cerbyd: yn cynnwys manylion y math o gerbyd, oedran y sawl wrth y llyw. Disgrifiad o'r sawl sydd wedi'i anafu/ladd: manylion difrifoldeb yr anafiadau, dosbarth ac oedran y sawl sydd wedi'i anafu/ladd. Mae'r Geiriadur Data yn rhoi disgrifiad manwl o'r newidynnau sydd wedi'u cynnwys ym mhob un o'r tri chategori.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r heddlu'n crynhoi data ystadegol am ddamweiniau traffig ffordd ac anafiadau/marwolaethau (data Stats19) ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Trafnidiaeth (DfT). Mae hyn yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn damweiniau lle mae unrhyw anaf personol, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd yn rhoi gwybod i'r heddlu'n uniongyrchol am ddamweiniau anaf personol. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru 14 wythnos ar ôl diwedd y chwarter diwethaf. Mae data Stats19 yn gyfres o rifau a llythrennau. Gall un ddamwain anafu/lladd llawer o bobl. Caiff anafiadau/marwolaethau a damweiniau eu hisrannu i gategorïau o bobl a gafodd eu lladd, pobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phobl a gafodd fân anafiadau. Dim ond pobl sy'n marw o fewn llai na 30 diwrnod o ganlyniad i'r ddamwain sy'n cael eu cynnwys yn y bobl a gafodd eu lladd. Nid ydynt yn cynnwys pobl a fu farw o achosion naturiol (e.e. trawiad ar y galon) yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain, ac nid ydynt yn cynnwys hunanladdiadau wedi'u cadarnhau chwaith. Caiff pob damwain ei dosbarthu ar sail y sawl sydd wedi'i anafu waethaf. Er enghraifft, os oes 5 o bobl wedi'u hanfu ond dim ond 1 wedi'i ladd, caiff y ddamwain ei chyfrif fel un angheuol.Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
1993 i 2014Ansawdd ystadegol
Gallai'r ffigurau hyn newid os daw newidiadau hwyr. Yn yr un modd, gallai ffigurau'r gorffennol fod yn wahanol i'r rheini a gyhoeddwyd. Mae'r ffigurau'n ymwneud yn unig â damweiniau ar y ffordd y cafodd yr heddlu wybod amdanynt lle cafodd pobl eu hanafu.Daw'r data o ffynonellau gweinyddol, felly gallai newid y gweithdrefnau effeithio ar y ffynonellau hynny.
Mae posibilrwydd y ceir peth tan-riportio a than-gofnodi yn ogystal â cham-gategereiddio damweiniau ond cedwir nifer y rheini'n fach gan fod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru'n dilysu data yn aml. Er enghraifft, gall dadansoddwyr data Llywodraeth Cymru holi heddlu am leoliad damwain os gwelir bod cyfeirnod grid damwain mewn awdurdod lleol gwahanol i'r un a nodir ar y ffurflen ddata. Trafodir y materion hyn yn fanylach yn yr Erthygl Ystadegol 'Adroddiad Ansawdd Anafusion Ffyrdd'.
Mae'r erthygl yn crynhoi hefyd y ffynonellau a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu ffigurau damweiniau ac anafusion yng Nghymru. Mae'n adolygu ansawdd y ffigurau o safbwynt chwe dimensiwn ansawdd ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd. Yr amcan yw rhoi gwybodaeth gefndir am ystadegau anafusion ffyrdd Cymru mewn un ddogfen ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r ystadegau a gyhoeddir. Fe'i gwelwch ar y ddolen isod:
http://gov.wales/statistics-and-research/police-recorded-road-casualties/quality-report/?lang=cy