Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Damweiniau ffyrdd a gofnodwyd yn ôl difrifoldeb ac ardal
Siart cyfateb i'r tabl data
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]Severity[Hidlo]
-
[Lleihau]Severity 1
-
Severity 2
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
[Lleihau]Pob difrifoldebCliciwch yma i ddidoliPob difrifoldeb
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliAnafwyd yn ychydig[Lleihau]LlADCliciwch yma i ddidoliLlAD
Cliciwch yma i ddidoliLladdwydCliciwch yma i ddidoliAnafwyd yn ddifrifol
[Lleihau]Cymru1,967758719462,913
Cymru[Lleihau]Ardal heddlu Gogledd Cymru30917196213522
Ardal heddlu Gogledd CymruYnys Môn232232548
Gwynedd425394486
Conwy493273079
Sir Ddinbych592293190
Sir y Fflint7244751123
Wrecsam641313296
[Lleihau]Ardal heddlu Dyfed Powys598253984231,021
Ardal heddlu Dyfed PowysPowys1949122131325
Ceredigion10706161168
Sir Benfro11539497212
Sir Gaerfyrddin18213121134316
[Lleihau]Ardal heddlu De Cymru67321105126799
Ardal heddlu De CymruAbertawe11931619138
Castell-nedd Port Talbot613131677
Pen-y-Bont ar Ogwr592111372
Bro Morgannwg696162291
Caerdydd21412425239
Rhondda Cynon Taf12051924144
Merthyr Tudful3116738
[Lleihau]Ardal heddlu Gwent38712172184571
Ardal heddlu GwentCaerffili9725557154
Blaenau Gwent360171753
Tor-faen621262789
Sir Fynwy7933336115
Casnewydd11364147160

Metadata

Teitl

Damweiniau ffyrdd yn ôl difrifoldeb, ardaloedd awdurdod lleol a heddlu Cymru

Diweddariad diwethaf

Mai 2025 Mai 2025

Diweddariad nesaf

Mai 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

System adroddiadau damweiniau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r ystadegau'n cyfeirio at y nifer a gafodd eu hanafu neu eu lladd mewn damweiniau anaf personol ar ffyrdd cyhoeddus y cafodd yr heddlu eu hysbysu yn eu cylch ac a gyfeiriwyd ymlaen at sylw Llywodraeth Cymru. Mae Data Damweiniau Ffordd yn cynnwys manylion y ddamwain, nifer y cerbydau yn y ddamwain a gwybodaeth am y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd. Mae data damweiniau'n cynnwys: y disgrifiad a'r lleoliad, y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd, difrifoldeb y ddamwain, y math o ffordd a ffactorau cyfrannol. Disgrifiad o'r cerbyd: yn cynnwys manylion y math o gerbyd, oedran y sawl wrth y llyw. Disgrifiad o'r sawl sydd wedi'i anafu/ladd: manylion difrifoldeb yr anafiadau, dosbarth ac oedran y sawl sydd wedi'i anafu/ladd. Mae'r Geiriadur Data yn rhoi disgrifiad manwl o'r newidynnau sydd wedi'u cynnwys ym mhob un o'r tri chategori.

Casgliad data a dull cyfrifo

Ar 15 Mai 2023, mabwysiadodd Heddlu Dyfed Powys system adrodd ar sail anafiadau (IBRS) ar gyfer adrodd am wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Cesglir data gan ddefnyddio'r system CRaSH (Collision Reporting and Sharing), pan fo'r heddwas sy'n bresennol yn cofnodi holl anafiadau'r person a anafwyd. Yna caiff yr anafiadau eu categoreiddio'n awtomatig yn ôl lefel difrifoldeb naill ai ‘mân’ i ‘difrifol’, ac mae'r lefel difrifoldeb uchaf yn cael ei defnyddio i nodi lefel difrifoldeb anafiadau'r person. Mae'r tri llu heddlu arall yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio system adrodd nad yw'n seiliedig ar anafiadau pan fo swyddogion yr heddlu yn defnyddio eu barn a'u canllawiau i benderfynu yn uniongyrchol ar ddifrifoldeb o ran y person a anafwyd (angheuol, difrifol neu fân).
Mae'r rhan fwyaf o heddluoedd yn Lloegr, yn ogystal â Heddlu'r Alban yn defnyddio'r system CRaSH, ac mae rhai wedi gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Mae cyflwyno IBRS wedi arwain at newid yn nifrifoldeb rhai anafusion ffyrdd yr adroddwyd amdanynt (mae'n bosibl i rai anafusion a fyddai'n cael eu categoreiddio fel rhai ‘mân’ ar systemau adrodd nad ydynt yn seiliedig ar anafiadau gael eu cofnodi fel rhai ‘difrifol’ mewn systemau adrodd sy'n seiliedig ar anafiadau). Mae dadansoddiad a wnaed gan yr Adran Drafnidiaeth yn awgrymu bod newid i IBRS yn ychwanegu rhwng 5% a 15% at gyfanswm Prydain Fawr ar gyfer anafiadau ‘difrifol’, ac yn lleihau nifer yr anafiadau ‘mân’. Nid yw cyfanswm y gwrthdrawiadau a'r anafusion yn cael eu heffeithio.
Nid ydym wedi addasu unrhyw ffigurau i ystyried y newidiadau hyn. Mae difrifoldeb y gwrthdrawiadau a'r anafusion a gyhoeddir fel yr adroddwyd gan heddluoedd. Mae'n debygol o Ch2 2023 ymlaen y bydd mwy o wrthdrawiadau yn Nyfed Powys yn cael eu hadrodd fel rhai difrifol nag o'r blaen, a llai fel rhai mân. Gall hyn hefyd effeithio ar gyfanswm y gwrthdrawiadau difrifol a mân ledled Cymru. Nid yw cyfanswm y gwrthdrawiadau a'r anafusion yn cael eu heffeithio. Wrth i ni gael mwy o ddata gan Ddyfed Powys byddwn yn adolygu'r angen i gynhyrchu addasiad, a byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am y newid hwn.

Ar 17 Medi 2023, newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya, ond nid pob un. Felly, mae'n debygol y bydd nifer cynyddol o wrthdrawiadau ac anafiadau ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya yn cael eu cofnodi o’r adeg yma, a gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 30mya, gan adlewyrchu hyd y ffordd gyfan o'r terfynau cyflymder hyn. Gall data fod yn gyfnewidiol ac ni ddylid tynnu casgliadau o ddata dros gyfnod byr.

Mae'r heddlu'n crynhoi data ystadegol am ddamweiniau traffig ffordd ac anafiadau/marwolaethau (data Stats19) ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Trafnidiaeth (DfT). Mae hyn yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn damweiniau lle mae unrhyw anaf personol, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd yn rhoi gwybod i'r heddlu'n uniongyrchol am ddamweiniau anaf personol. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru 14 wythnos ar ôl diwedd y chwarter diwethaf. Mae data Stats19 yn gyfres o rifau a llythrennau. Gall un ddamwain anafu/lladd llawer o bobl. Caiff anafiadau/marwolaethau a damweiniau eu hisrannu i gategorïau o bobl a gafodd eu lladd, pobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phobl a gafodd fân anafiadau. Dim ond pobl sy'n marw o fewn llai na 30 diwrnod o ganlyniad i'r ddamwain sy'n cael eu cynnwys yn y bobl a gafodd eu lladd. Nid ydynt yn cynnwys pobl a fu farw o achosion naturiol (e.e. trawiad ar y galon) yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain, ac nid ydynt yn cynnwys hunanladdiadau wedi'u cadarnhau chwaith. Caiff pob damwain ei dosbarthu ar sail y sawl sydd wedi'i anafu waethaf. Er enghraifft, os oes 5 o bobl wedi'u hanfu ond dim ond 1 wedi'i ladd, caiff y ddamwain ei chyfrif fel un angheuol.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2015 i 2024

Ansawdd ystadegol

Gallai'r ffigurau hyn newid os daw newidiadau hwyr. Yn yr un modd, gallai ffigurau'r gorffennol fod yn wahanol i'r rheini a gyhoeddwyd. Mae'r ffigurau'n ymwneud yn unig â damweiniau ar y ffordd y cafodd yr heddlu wybod amdanynt lle cafodd pobl eu hanafu.
Daw'r data o ffynonellau gweinyddol, felly gallai newid y gweithdrefnau effeithio ar y ffynonellau hynny.
Mae posibilrwydd y ceir peth tan-riportio a than-gofnodi yn ogystal â cham-gategereiddio damweiniau ond cedwir nifer y rheini'n fach gan fod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru'n dilysu data yn aml. Er enghraifft, gall dadansoddwyr data Llywodraeth Cymru holi heddlu am leoliad damwain os gwelir bod cyfeirnod grid damwain mewn awdurdod lleol gwahanol i'r un a nodir ar y ffurflen ddata. Trafodir y materion hyn yn fanylach yn yr Erthygl Ystadegol 'Adroddiad Ansawdd Anafusion Ffyrdd'.
Mae'r erthygl yn crynhoi hefyd y ffynonellau a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu ffigurau damweiniau ac anafusion yng Nghymru. Mae'n adolygu ansawdd y ffigurau o safbwynt chwe dimensiwn ansawdd ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd. Yr amcan yw rhoi gwybodaeth gefndir am ystadegau anafusion ffyrdd Cymru mewn un ddogfen ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r ystadegau a gyhoeddir. Fe'i gwelwch ar y ddolen isod:
http://gov.wales/statistics-and-research/police-recorded-road-casualties/quality-report/?lang=cy



Dolenni'r we

https://llyw.cymru/damweiniau-ffyrdd-wediu-cofnodi-gan-yr-heddlu

Gwnaed mân ddiwygiadau i ddata 2022 ar 27 Medi 2023 oherwydd bod data wedi'i gyflwyno'n hwyr gan un llu heddlu.

Allweddeiriau

Trafnidiaeth Ffordd Damweiniau Gwrthdrawiadau Angheuol Lladdwyd Difrifol Mân anafiadau Heddlu Cofnodwyd gan yr heddlu