Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Damweiniau ffyrdd a gofnodwyd yn ôl difrifoldeb a blwyddyn
Siart cyfateb i'r tabl data
None
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ardal 1[Hidlo]
-
Ardal 2[Hidlo]
Measure2
[Lleihau]Severity[Hidlo]
-
[Lleihau]Severity 1
-
Severity 2
Blwyddyn[Hidlwyd]
[Lleihau]Pob difrifoldebCliciwch yma i ddidoliPob difrifoldeb
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliAnafwyd yn ychydig[Lleihau]LlADCliciwch yma i ddidoliLlAD
Cliciwch yma i ddidoliLladdwydCliciwch yma i ddidoliAnafwyd yn ddifrifol
20154,513929401,0325,545
20163,946958809754,921
20173,618968349304,548
20183,2301008929924,222
20193,273949631,0574,330
20202,143736567292,872
20212,423827838653,288
2022(r) The data item has been revised since previously published in StatsWales.2,434(r) The data item has been revised since previously published in StatsWales.89792(r) The data item has been revised since previously published in StatsWales.881(r) The data item has been revised since previously published in StatsWales.3,315

Metadata

Teitl

Damweiniau ffyrdd yn ôl difrifoldeb, ardaloedd awdurdod lleol a heddlu Cymru

Diweddariad diwethaf

Hydref 2023 Hydref 2023

Diweddariad nesaf

Ebrill 2024 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

System adroddiadau damweiniau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r ystadegau'n cyfeirio at y nifer a gafodd eu hanafu neu eu lladd mewn damweiniau anaf personol ar ffyrdd cyhoeddus y cafodd yr heddlu eu hysbysu yn eu cylch ac a gyfeiriwyd ymlaen at sylw Llywodraeth Cymru. Mae Data Damweiniau Ffordd yn cynnwys manylion y ddamwain, nifer y cerbydau yn y ddamwain a gwybodaeth am y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd. Mae data damweiniau'n cynnwys: y disgrifiad a'r lleoliad, y nifer sydd wedi'u hanafu neu eu lladd, difrifoldeb y ddamwain, y math o ffordd a ffactorau cyfrannol. Disgrifiad o'r cerbyd: yn cynnwys manylion y math o gerbyd, oedran y sawl wrth y llyw. Disgrifiad o'r sawl sydd wedi'i anafu/ladd: manylion difrifoldeb yr anafiadau, dosbarth ac oedran y sawl sydd wedi'i anafu/ladd. Mae'r Geiriadur Data yn rhoi disgrifiad manwl o'r newidynnau sydd wedi'u cynnwys ym mhob un o'r tri chategori.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r heddlu'n crynhoi data ystadegol am ddamweiniau traffig ffordd ac anafiadau/marwolaethau (data Stats19) ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Trafnidiaeth (DfT). Mae hyn yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn damweiniau lle mae unrhyw anaf personol, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd yn rhoi gwybod i'r heddlu'n uniongyrchol am ddamweiniau anaf personol. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru 14 wythnos ar ôl diwedd y chwarter diwethaf. Mae data Stats19 yn gyfres o rifau a llythrennau. Gall un ddamwain anafu/lladd llawer o bobl. Caiff anafiadau/marwolaethau a damweiniau eu hisrannu i gategorïau o bobl a gafodd eu lladd, pobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phobl a gafodd fân anafiadau. Dim ond pobl sy'n marw o fewn llai na 30 diwrnod o ganlyniad i'r ddamwain sy'n cael eu cynnwys yn y bobl a gafodd eu lladd. Nid ydynt yn cynnwys pobl a fu farw o achosion naturiol (e.e. trawiad ar y galon) yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain, ac nid ydynt yn cynnwys hunanladdiadau wedi'u cadarnhau chwaith. Caiff pob damwain ei dosbarthu ar sail y sawl sydd wedi'i anafu waethaf. Er enghraifft, os oes 5 o bobl wedi'u hanfu ond dim ond 1 wedi'i ladd, caiff y ddamwain ei chyfrif fel un angheuol.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2015 i 2022

Ansawdd ystadegol

Gallai'r ffigurau hyn newid os daw newidiadau hwyr. Yn yr un modd, gallai ffigurau'r gorffennol fod yn wahanol i'r rheini a gyhoeddwyd. Mae'r ffigurau'n ymwneud yn unig â damweiniau ar y ffordd y cafodd yr heddlu wybod amdanynt lle cafodd pobl eu hanafu.
Daw'r data o ffynonellau gweinyddol, felly gallai newid y gweithdrefnau effeithio ar y ffynonellau hynny.
Mae posibilrwydd y ceir peth tan-riportio a than-gofnodi yn ogystal â cham-gategereiddio damweiniau ond cedwir nifer y rheini'n fach gan fod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru'n dilysu data yn aml. Er enghraifft, gall dadansoddwyr data Llywodraeth Cymru holi heddlu am leoliad damwain os gwelir bod cyfeirnod grid damwain mewn awdurdod lleol gwahanol i'r un a nodir ar y ffurflen ddata. Trafodir y materion hyn yn fanylach yn yr Erthygl Ystadegol 'Adroddiad Ansawdd Anafusion Ffyrdd'.
Mae'r erthygl yn crynhoi hefyd y ffynonellau a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu ffigurau damweiniau ac anafusion yng Nghymru. Mae'n adolygu ansawdd y ffigurau o safbwynt chwe dimensiwn ansawdd ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd. Yr amcan yw rhoi gwybodaeth gefndir am ystadegau anafusion ffyrdd Cymru mewn un ddogfen ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r ystadegau a gyhoeddir. Fe'i gwelwch ar y ddolen isod:
http://gov.wales/statistics-and-research/police-recorded-road-casualties/quality-report/?lang=cy



Dolenni'r we

https://llyw.cymru/damweiniau-ffyrdd-wediu-cofnodi-gan-yr-heddlu

Gwnaed mân ddiwygiadau i ddata 2022 ar 27 Medi 2023 oherwydd bod data wedi'i gyflwyno'n hwyr gan un llu heddlu.

Allweddeiriau

Trafnidiaeth Ffordd Damweiniau Gwrthdrawiadau Angheuol Lladdwyd Difrifol Mân anafiadau Heddlu Cofnodwyd gan yr heddlu