Traffig ffyrdd yn ôl Awdurdodau Lleol a blwyddyn yn gynnwys cefnffyrdd (biliwn o gilomedrau cerbydau)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r ystadegau'n cyfeirio at lefelau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifiadau traffig â llaw sy'n cael eu cynnal wrth ochr y ffordd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae'r cyfrifiadau wrth ochr y ffordd hyn yn cael eu cyfuno â data cyfrifiadau traffig awtomatig a hydoedd ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon traffig cyffredinol.Mae'r amcangyfrifon traffig ar gyfer pob prif ffordd yn seiliedig ar gyfrifiad o bob ffordd o'r fath, ond mae amcangyfrifon ar gyfer is-ffyrdd yn cael eu cynhyrchu drwy gyfrifo cyfraddau tyfu o sampl penodol o fannau ar y rhwydwaith is-ffyrdd. Mae rhagor o fanylion ynglyn â'r fethodoleg ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth yn o ddolen isod:
https://www.gov.uk/government/publications/road-traffic-speeds-and-congestion-statistics-guidance
.
Mae pob ffordd ag arwyneb yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrifon. Y categorïau yw:
Prif ffyrdd:
Traffyrdd. Ffyrdd deuol wedi'u cynllunio ar gyfer traffig cyflym, lle mae mynediad wedi'i gyfyngu i gerbydau modur, a nifer cymharol isel o fannau ar gyfer ymuno neu ymadael. Yr unig draffordd yng Nghymru yw'r M4.
Cefnffyrdd categori A. Rhan o'r rhwydwaith ffyrdd strategol sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu ar ei rhan
Ffyrdd gwledig categori A. Pob ffordd categori A arall.
Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd A ar gael gydag is-gategorïau ar gyfer ffyrdd trefol a gwledig ar StatsCymru. Ffyrdd trefol yw'r ffyrdd hynny o fewn ffiniau ardaloedd â phoblogaeth o 10,000 neu'n uwch, a ffyrdd gwledig yw'r holl brif ffyrdd eraill nad ydynt yn draffyrdd.
Is-ffyrdd:
Ffyrdd B. Ffyrdd â'r nod o gysylltu ardaloedd gwahanol, a mynd â thraffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith.
Ffyrdd dosbarthiadol heb rif. Ffyrdd llai â'r nod o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sydd yn aml yn cysylltu ystad tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Maent yn debyg i 'is-ffyrdd' ar fap Arolwg Ordnans, ac weithiau cyfeirir atynt yn answyddogol fel ffyrdd C.
Ffyrdd diddosbarth. Ffyrdd lleol ar gyfer traffig lleol. Mae mwyafrif helaeth ffyrdd yn y categori hwn.
Mae’r dadansoddiad yn ôl math o gerbyd yn seiliedig ar arsylwi ochr ffordd ble y caiff y cerbydau eu dosbarthu yn unol â’u
hymddangosiad cyffredinol. Y mathau o gerbydau a nodir yw: 1) Beiciau pedlau: I gynnwys pob beic heb fodur, 2) Beiciau modur: cerbydau dwy olwyn, gan gynnwys mopeds, cerbyd sgwter a chyfuniadau beiciau modur, 3) Ceir a thacsis: I gynnwys ceir estynedig, pob fan ysgafn sydd â ffenestr y tu ôl i sedd y gyrrwr, cerbydau i deithwyr gyda 9 sedd neu lai, cerbydau 3 olwyn, cerbydau modur i gleifion, Land Rovers, Range Rovers a Jeeps. Mae ceir sy’n tynnu carafanau neu drelars yn cael eu cyfrif fel un cerbyd, 4) Bysiau a coetsys: I gynnwys pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus a bysiau gwaith ar wahân i gerbydau sydd â llai na 10 o seddau, 5) Faniau ysgafn: Pob cerbyd nwyddau hyd at 3,500kg o bwysau gros. Mae hyn yn cynnwys pob fan ar ffurf car a’r rhai sydd â’r capasiti nesaf o ran cludo, megis faniau cludo. Mae ambiwlans, faniau cludo llai, cerbydau cludo llaeth a cherbydau a reolir gan gerddwr yn cael eu cynnwys hefyd. Mae rhan fwyaf y grwp hwn yn faniau cludo nwyddau o ryw fath, 6) Cerbydau nwyddau: Pob cerbyd nwyddau dros 3,500kg pwysau gros. I gynnwys tractorau (heb drelar), rholwyr ffordd, faniau bocs a faniau mawr tebyg. Mae uned tractor modur dwy echel heb drelar wedi eu cynnwys hefyd, 7) Pob cerbyd modur: Pob cerbyd ar wahân i feiciau pedalau.
Mae lefelau traffig yn cael eu mesur gan ddefnyddio cilomedrau cerbyd (VKM), sy'n cael eu cyfrifo drwy luosi cyfartaledd blynyddol y llif bob dydd â hyd y darn o ffordd o dan sylw. Er enghraifft, byddai un cerbyd yn teithio un cilomedr bob dydd am flwyddyn yn hafal i 365 VKM y flwyddyn. Yn y cyhoeddiad hwn cyflwynir amcangyfrifon mewn biliynau o gilometrau cerbyd (bvk).
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff amcangyfrifon traffig Cymru eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifon traffig ffordd blynyddol ar ochr y ffordd sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Caiff y cyfrifon hyn ar ochr y ffordd eu cyfuno gyda’r data cyfrif traffig awtomatig a hyd y ffyrdd i gynhyrchu’r amcangyfrifon traffig cyffredinol.Mae’r Adran Drafnidiaeth hefyd yn creu gwefan ddaearyddol sy’n caniatâu i ddefnyddwyr weld a lawrlwytho yr amcangyfrifon o lif y traffig ar bob ffordd gyswllt o’r rhwydwaith ffyrdd ‘A’ a thraffyrdd ym Mhrydain Fawr yn ogystal â setiau data traffig ar gyfer 2000 i 2019 (priffyrdd ac is-ffyrdd):
http://www.dft.gov.uk/traffic-counts/
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2007 - 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae data wedi'u talgrynnu i ddau le degol. Ar gyfer cofnodion lle nad oes data defnyddir "*".Teitl
Traffig ffyrdd yn ôl Awdurdodau Lleol a blwyddyn yn gynnwys cefnffyrdd (biliwn o gilomedrau cerbydau)Diweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
Awst 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Traffig ar Sail Data â Gesglir â Llaw, yr Adran DrafnidiaethCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Trafnidiaeth traffig ffyrdd awdurdod lleol yn gynnwys cefnffyrddAnsawdd ystadegol
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i lunio a monitro polisïau, ac maent hefyd yn cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i adrannau llywodraethol eraill, busnesau, y cyfryngau a'r cyhoedd. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr. Dyma rai o'r ffyrdd penodol mae'r data'n cael eu defnyddio:1. Mae dangosyddion Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y data hyn ar lif traffig. Mae'r dangosyddion hyn yn mesur y newid i lifoedd traffig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd ac ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol unigol.
2. Bydd y data hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n rhan o'r cyfrifiadau i ateb unrhyw geisiadau am wybodaeth am y gyfradd anafusion ar gyfer lefelau traffig ar rannau gwahanol o ffyrdd.
3. Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'r amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig.
Cywirdeb
Mae’r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau llawer o gyfrifiadau â llaw 12 awr sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle. Mae'r Adran Drafnidiaeth bellach yn rhannu'r mathau o ffyrdd yn 22 grwp (dim ond saith a fu yn flaenorol). Mae hyn yn gwneud cymharu lleoliadau cyfrifiadau â llaw a lleoliadau cyfrifiadau awtomatig yn haws. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiadau manwl o ganlyniadau o holl safleoedd y cyfrifiadau awtomatig unigol, ac maent yn ystyried grwpiau rhanbarthol, categorïau ffyrdd (h.y. dosbarthiad trefol/gwledig a chategori'r ffordd), a lefelau llif y traffig.