Neidio i'r cynnwys

Traffig ffyrdd

Ystadegau yn ymdrin â chyfanswm y traffig fesul biliwn o gilometrau cerbyd. Mesurir traffig y ffyrdd yn ôl y pellter y mae’r cerbyd wedi’i deithio mewn blwyddyn. Nid yw ffigurau ‘traffig pob cerbyd modur’ yn cynnwys beiciau ond mae ‘pob traffig’ yn cynnwys cerbydau modur a beiciau.

Mae’r data yma yn cynnwys cyfanswm y traffig ar y ffyrdd yn ôl: dosbarth y ffyrdd a’r cerbydau ac awdurdod lleol. Ceir data hefyd ynghylch cofrestru cerbydau newydd.