Achosion troseddwyr moduro ym mhob llys yn ôl hyd y ddedfryd a blwyddyn (hyd at 2021)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Achosion troseddwyr moduro ym mhob llys yn ôl rhyw a hyd y ddedfrydDiweddariad diwethaf
15 Chwefror 2023Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2023 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau'r heddluCwmpas daearyddol
Cymru a LloegrCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r bwletin ystadegol blynyddol hwn yn cynnwys data yn ymwneud â throseddau moduro:• Achosion llys yn erbyn troseddwyr moduro
• Camau gorfodi parcio sifil a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae data cyfwerth ar gyfer Lloegr i’w weld yn y dolenni ar gyfer y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Transport Scotland yn cyhoeddi nifer y troseddau cerbydau a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl math o drosedd ym mhennod ‘Road Transport Vehicles’ y cyhoeddiad cryno a elwir yn “Scottish Transport Statistics”: (http://www.transport.gov.scot/statistics/scottish-transport-statistics-all-editions). Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi nifer y bobl a fu yn y llys am droseddau cerbydau yn y Bwletin Ystadegol “Criminal Proceedings in Scotland”: (http://www.gov.scot/Topics/Statistics/Browse/Crime-Justice/Datasets/DatasetsCrimProc).
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu ystadegau ar hysbysiadau cosb benodedig: (https://www.psni.police.uk/inside-psni/Statistics/fixed-penalty-notice-fpn-and-discretionary-disposal-statistics-for-traffic-offences/). Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi nifer y difinyddion y penderfynwyd ar eu hachos troseddau moduro mewn llys ynadon (http://www.courtsni.gov.uk/en-GB/Services/Statistics%20and%20Research/Pages/default.aspx).
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell y dataMae’r wybodaeth am achosion llys yn ailadrodd yr ystadegau a gynhyrchwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei chyfres cyfiawnder troseddol (https://www.gov.uk/government/collections/criminal-justice-statistics).
Cwmpas
Mae cwmpas ‘Police Powers and Procedures’ yn cynnwys defnyddio pwerau’r heddlu i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am droseddau moduro. Mae hwn yn cael ei ddadansoddi yn ôl math o drosedd a sut yr ymdrinnir â nhw (e.e. talu dirwy neu gofrestru dirwy mewn llys). Mae’r data a gyflwynir yn cael ei gymryd o ffurflenni gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigurau hefyd yn cynnwys hysbysiadau a roddwyd gan wardeiniaid traffig cyflogedig yr heddlu am droseddau parcio. Dylid pwysleisio yma bod y rhan fwyaf o wardeiniaid traffig nawr yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, ac nad yw eu gweithgareddau’n cael eu cynnwys yma. Isod, ceir rhestr o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am orfodi parcio a phryd ddigwyddodd hyn:
Castell-nedd Port Talbot - 1 Mehefin 1999
Sir Gaerfyrddin - 1 Mehefin 1999
Sir Ddinbych - 1 Gorffennaf 2004
Conwy - 1 Medi 2006
Gwynedd - 1 Ebrill 2007
Ynys Môn - 1 Ebrill 2007
Wrecsam - 1 Mawrth 2008
Abertawe - 1 Medi 2008
Caerdydd - 5 Gorffennaf 2010
Sir Benfro - 1 Chwefror 2011
Powys - 1 Ebrill 2011
Merthyr Tudful - 11 Ionawr 2012
Ceredigion - 4 Mehefin 2012
Rhondda Cynon Taf - 1 Awst 2012
Pen-y-bont ar Ogwr - 1 Ebrill 2013
Bro Morgannwg - 1 Ebrill 2013
Sir y Fflint - 1 Hyd 2013
Cafodd ystadegau ar hysbysiadau Cywiro Namau Cerbydau yn sgil troseddau moduro eu tynnu o’r bwletin hwn yn 2009.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2006 i 2021Dolenni'r we
https://llyw.cymru/troseddau-moduro; https://www.gov.uk/government/collections/criminal-justice-statistics-quarterlyAllweddeiriau
Troseddwyr Moduro, Math o Lys, Rhyw, Hyd Dedfryd,Ansawdd ystadegol
Defnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn troseddau gyrru ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach. Defnyddir ystadegau profion anadl i fesur effeithiolrwydd ymgyrchoedd yfed a gyrru heddluoedd.Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y ffigurau a gyflwynir yn gywir ac yn gyflawn. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y data hyn wedi'u tynnu o systemau data gweinyddol mawr a gynhyrchir gan y llysoedd a'r heddluoedd. O ganlyniad, dylid cymryd gofal i sicrhau prosesau casglu data a'u cyfyngiadau anochel yn cael eu hystyried pan ddefnyddir y data hynny.