Brofion anadl sgrinio yng Nghymru yn ôl blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer y profion anadl a sgriniwyd yn ôl rhanbarth heddlu yng Nghymru.Diweddariad diwethaf
20 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau Prawf Anadl ar gyfer Lloegr a Chymru, Y Swyddfa GartrefDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau'r heddluCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Nifer y profion anadl a sgriniwyd yn ôl rhanbarth heddlu yng Nghymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Profion anadlGall yr heddlu ofyn i berson gymryd prawf anadl i’w sgrinio os oes ganddynt achos rhesymol i amau bod y person wedi bod yn gyrru neu wedi ceisio gyrru gydag alcohol yn ei gorff (Adran 6(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988), ei fod wedi cyflawni trosedd draffig symudol (Adran 6(1)), neu ei fod wedi bod mewn damwain (Adran 6(2)). Mae person sy’n methu darparu prawf anadl yn euog o drosedd, oni bai bod yna esgus rhesymol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2002 i 2022Ansawdd ystadegol
Defnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn troseddau gyrru ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach. Defnyddir ystadegau profion anadl i fesur effeithiolrwydd ymgyrchoedd yfed a gyrru heddluoedd.Dangosodd ffigurau ar gyfer 'cyfanswm profion anadl ' gynnydd mawr rhwng 2007 a 2009 oherwydd bod system prawf anadl ddigidol newydd yn cael ei gweithredu gan lawer o heddluoedd. Yn flaenorol, gydag adroddiadau papur, roedd profion anadl negyddol yn tueddu i gael eu tan-adrodd gan luoedd. Mewn rhai achosion, gall swyddogion o'r lluoedd cyfagos gynnal profion anadl mewn tiriogaeth a gwmpesir gan heddluoedd eraill. Mewn achosion o'r fath, bydd prawf anadl yn cael ei gofnodi yn erbyn y llu sy'n berchen ar yr offer. Nid yw bob amser yn bosibl nodi pa lu a gynhaliodd y prawf anadl mewn gwirionedd.