

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Hysbysiadau cosb benodedig ardystiadwy ac anardystiadwy yn ôl cod rhanbarth, presenoldeb yn y llys a chanlyniad yng NghymruDiweddariad diwethaf
20 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024 (Dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer Troseddau Moduro yn Lloegr a Chymru, Y Swyddfa GartrefDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Ansawdd yr YstadegauDefnyddir yr ystadegau o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn troseddau gyrru ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach.
Amseroldeb a Phrydlondeb
Mae’r ystadegau ar achosion llys yn ymwneud ag achosion mewn llysoedd ynadon yng Nghymru yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2015.
Cywirdeb, cymharedd a chysondeb
O fis Mehefin 2012, cyflwynwyd PentiP, system genedlaethol newydd ar gyfer prosesu hysbysiadau cosb benodedig, mewn heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gan ddisodli system Gweithdrefnau Cerbydau a Swyddfa Cosbau Penodedig (VP/FPO). Cyflwynir data VP/FPO, a ddarparwyd i’r Swyddfa Gartref gan heddluoedd unigol, yn y bwletin hwn ar gyfer blynyddoedd 2007 i 2011 fel y gellir cymharu nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw. Mae’r data ar gyfer pob heddlu o 2011 wedi’i gymryd yn ganolog o PentiP, er mwyn gallu cymharu o 2011 ymlaen. Yn gyffredinol, mae ffigurau PentiP ychydig yn is na’r rhai cyfwerth o VP/FPO; mae ffigurau PentiP ar gyfer hysbysiadau a gyhoeddwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2011 tua 5% yn is na’r rhai a gafwyd o VP/FPO. Mae’r canllaw i ddefnyddwyr yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau, deddfwriaeth, gweithdrefn a’r newid i PentiP
(https://www.gov.uk/government/publications/police-powers-and-procedures-in-england-and-wales-201112-user-guide).
O fis Mehefin 2012, cafodd PentiP, system genedlaethol newydd ar gyfer prosesu Hysbysiad Cosb Benodedig, ei chyflwyno mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, gan ddisodli'r system Gweithdrefnau Cerbydau a'r Swyddfa Cosb Benodedig (VP / FPO).
Allweddeiriau
Y gellir ei ardystio, na ellir ei ardystio, hysbysiadau cosb benodedig, canlyniad,Dolenni'r we
https://llyw.cymru/troseddau-moduro; https://www.gov.uk/government/collections/police-powers-and-procedures-england-and-walesDisgrifiad cyffredinol
Mae’r bwletin ystadegol blynyddol hwn yn cynnwys data yn ymwneud â throseddau moduro:Hysbysiadau cosb benodedig gan yr heddlu a Mynychwyr Parcio
Hysbysiadau cosb benodedig y gellir eu hardystio ac na ellir eu hardystio y cyfeirir atynt yn y bwletin hwn
Camau gorfodi parcio sifil a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y bwletin hwn.
Mae data cyfwerth ar gyfer Lloegr i’w weld yn y dolenni ar gyfer y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn adran 2 isod. Mae Transport Scotland yn cyhoeddi nifer y troseddau cerbydau a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl math o drosedd ym mhennod ‘Road Transport Vehicles’ y cyhoeddiad cryno a elwir yn “Scottish Transport Statistics”: (http://www.transport.gov.scot/statistics/scottish-transport-statistics-all-editions). Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi nifer y bobl a fu yn y llys am droseddau cerbydau yn y Bwletin Ystadegol “Criminal Proceedings in Scotland”: (http://www.gov.scot/Topics/Statistics/Browse/Crime-Justice/Datasets/DatasetsCrimProc).
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu ystadegau ar hysbysiadau cosb benodedig: (https://www.psni.police.uk/inside-psni/Statistics/fixed-penalty-notice-fpn-and-discretionary-disposal-statistics-for-traffic-offences/). Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi nifer y difinyddion y penderfynwyd ar eu hachos troseddau moduro mewn llys ynadon (http://www.courtsni.gov.uk/en-GB/Services/Statistics%20and%20Research/Pages/default.aspx).
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell y dataDaw’r wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau moduro o’r gyfres ddata a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gartref yn ‘Police Powers and Procedures England and Wales’ (https://www.gov.uk/government/collections/police-powers-and-procedures-england-and-wales).
Cwmpas
Mae cwmpas ‘Police Powers and Procedures’ yn cynnwys defnyddio pwerau’r heddlu i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am droseddau moduro. Mae hwn yn cael ei ddadansoddi yn ôl math o drosedd a sut yr ymdrinnir â nhw (e.e. talu dirwy neu gofrestru dirwy mewn llys). Mae’r data a gyflwynir yn cael ei gymryd o ffurflenni gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigurau hefyd yn cynnwys hysbysiadau a roddwyd gan wardeiniaid traffig cyflogedig yr heddlu am droseddau parcio. Dylid pwysleisio yma bod y rhan fwyaf o wardeiniaid traffig nawr yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, ac nad yw eu gweithgareddau’n cael eu cynnwys yma. Isod, ceir rhestr o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am orfodi parcio a phryd ddigwyddodd hyn:
Castell-nedd Port Talbot - 1 Mehefin 1999
Sir Gaerfyrddin - 1 Mehefin 1999
Sir Ddinbych - 1 Gorffennaf 2004
Conwy - 1 Medi 2006
Gwynedd - 1 Ebrill 2007
Ynys Môn - 1 Ebrill 2007
Wrecsam - 1 Mawrth 2008
Abertawe - 1 Medi 2008
Caerdydd - 5 Gorffennaf 2010
Sir Benfro - 1 Chwefror 2011
Powys - 1 Ebrill 2011
Merthyr Tudful - 11 Ionawr 2012
Ceredigion - 4 Mehefin 2012
Rhondda Cynon Taf - 1 Awst 2012
Pen-y-bont ar Ogwr - 1 Ebrill 2013
Bro Morgannwg - 1 Ebrill 2013
Sir y Fflint - 1 Hyd 2013
Cafodd ystadegau ar hysbysiadau Cywiro Namau Cerbydau yn sgil troseddau moduro eu tynnu o’r bwletin hwn yn 2009.