Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Cod Awdurdod Lleol[Hidlo]
Measure2
Siaradwyr Cymraeg[Hidlo]
[Lleihau]Awdurdod Lleol[Hidlo]
-
-
Awdurdod Lleol 1
Cliciwch yma i ddidoliPawb 3 oed neu hynMae\'r cyfanswm yn cynnwys y rhai nad oedd wedi nodi a allen nhw siarad Cymraeg ai peidio.Cliciwch yma i ddidoliIe, yn gallu siarad CymraegCliciwch yma i ddidoliNa, ni all siarad CymraegCliciwch yma i ddidoliCanran y bobl sy'n dweud eu bod yn siarad CymraegMae’r ganran yn seiliedig ar y rhai a atebodd y cwestiwn yn unig.
[Lleihau]Cymru3,034,200899,5002,132,10029.7
CymruYnys Môn67,70042,00025,70062.1
Gwynedd120,30091,70028,40076.3
Conwy111,90047,40064,50042.3
Sir Ddinbych92,90035,30057,40038.1
Sir y Fflint151,70036,100114,80023.9
Wrecsam135,90035,000100,90025.8
Powys127,60037,10090,60029.0
Ceredigion74,00042,50031,50057.4
Sir Benfro123,20034,10089,10027.7
Sir Gaerfyrddin176,70092,00084,70052.1
Abertawe239,50042,000197,10017.6
Castell-nedd Port Talbot137,80029,800107,60021.7
Pen-y-bont ar Ogwr137,60025,200112,40018.3
Bro Morgannwg125,50025,90099,60020.7
Caerdydd359,400102,400257,00028.5
Rhondda Cynon Taf230,90047,100183,30020.5
Merthyr Tudful57,40012,80044,50022.4
Caerffili174,20045,800128,40026.3
Blaenau Gwent66,60011,00055,60016.6
Tor-faen89,50015,50074,00017.3
Sir Fynwy90,10016,50073,60018.4
Casnewydd143,70032,100111,40022.4

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru.

Casgliad data a dull cyfrifo

Ers canol mis Mawrth 2020, yn sgil pandemig COVID-19, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth dros y ffôn yn hytrach na thrwy gyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i chael ar yr arolwg ac wedi ail-bwysoli'r data o’r herwydd. Mae mwy o wybodaeth am y rhesymau a’r fethodoleg ar gael ar wefan yr ONS (link).
Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Cymerir y data hyn o'r setiau data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen, ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Yr ONS sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. Nid yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r pedwar set ddata chwarterol ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.
Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.
Nomis yw porth swyddogol yr ONS ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2001 i 2022

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ym mis Hydref 2020, adolygwyd data Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2020 a 2021. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021. Mae’r data diwygiedig wedi’i farcio â (r).

Teitl

Pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

25 Hydref 2022 25 Hydref 2022

Diweddariad nesaf

Ionawr 2023

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Siaradwyr Cymraeg iaith







Siaradwyr Cymraeg

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.

Enw

Econ0075