Neidio i'r cynnwys

Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Y Gymraeg

Y Cyfrifiad yw’r ffynhonnell wybodaeth allweddol am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn casglu gwybodaeth bob chwarter am allu ymatebwyr i siarad Cymraeg ac mae hefyd yn casglu gwybodaeth am ba mor aml y maent yn siarad Cymraeg. Yn hanesyddol, mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o allu pobl yn y Gymraeg yn uwch na’r rhai a gynhyrchir gan y Cyfrifiad.

Ar ôl lansiad beta o blatfform newydd StatsCymru, o 26 Medi ymlaen bydd yr holl setiau data newydd a diwygiedig yn cael eu cyhoeddi’n drwy’r gwasanaeth newydd yn unig. Gwnaed nifer fach o ddiwygiadau i’r data yn ôl oedran ar gyfer chwarter dau 2011 wrth symud i’r platfform newydd, er mwyn cywiro nifer fach o wallau codio hanesyddol a nodwyd yn ystod y broses adolygu, a chywirwyd hefyd labelu o fewn setiau data yn ôl sgiliau Cymraeg.