

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl oedran a rhywDiweddariad diwethaf
05 Hydref 2023Diweddariad nesaf
Ionawr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
dataiaithgymraeg@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl oed a rhywCasgliad data a dull cyfrifo
Ers canol mis Mawrth 2020, yn sgil pandemig COVID-19, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth dros y ffôn yn hytrach na thrwy gyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i chael ar yr arolwg ac wedi ail-bwysoli'r data o’r herwydd. Mae mwy o wybodaeth am y rhesymau a’r fethodoleg ar gael ar wefan yr ONS (link).Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.
Cymerir y data hyn o'r setiau data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen, ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Yr ONS sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. Nid yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r pedwar set ddata chwarterol ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.
Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.
Nomis yw porth swyddogol yr ONS ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
2004 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Allweddeiriau
Siaradwyr Cymraeg iaithSiaradwyr Cymraeg