Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu ac deall Cymraeg llafar, yn ôl awdurdod lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
9 Hydref 2024Diweddariad nesaf
I'w gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
dataiaithgymraeg@llyw.cymruLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu ac deall Cymraeg llafar, yn ôl awdurdod lleol yng NghymruCasgliad data a dull cyfrifo
Bu newid i'r modd y cynhelir yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yng nghanol mis Mawrth 2020. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffôn o ganlyniad i'r pandemig COVID-19. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i gael ar yr arolwg ac o ganlyniad maent wedi pwysoli'r amcangyfrifon yn unol â hynny. Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023.Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.
Cymerir y data hyn o'r setiau data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen, ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Yr ONS sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. Nid yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r pedwar set ddata chwarterol ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.
Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.
Nomis yw porth swyddogol yr ONS ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
2004 i 2024Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Ansawdd ystadegol
Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Serch hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â data arall ar siaradwyr Cymraeg, fel o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.
Allweddeiriau
Siaradwyr Cymraeg IaithSiaradwyr Cymraeg