

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amlder Siarad Cymraeg yn ôl oedran a rhywDiweddariad diwethaf
12 Ionawr 2021Diweddariad nesaf
Mawrth 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
dataiaithgymraeg@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am ba mor aml y mae pobl 3 oed a throsodd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg, yn ôl oedran a rhyw. Mae'r canrannau hyn yn cyfateb i gyfanswm y ganran sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.Casgliad data a dull cyfrifo
Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae'r data ar gyfer Cymru wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Mae data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. NID yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.
Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
2007 i 2020Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ers diwedd mis Mawrth 2020, yn sgil pandemig COVID-19, mae’r ABB wedi'i gynnal dros y ffôn yn hytrach na thrwy gyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae SYG wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i chael ar yr arolwg ac wedi ail-bwysoli'r arolwg ar gyfer mis Ionawr i fis Mehefin 2020 (h.y. chwarter 1 a 2 2020). Roedd y newid yn y dull o gynnal yr arolwg wedi arwain at gyfran uwch o bobl sy’n berchen ar eu cartrefi yn ymateb, ond cyfran is o bobl sy’n rhentu yn ymateb i'r arolwg na chyn y pandemig.Ansawdd ystadegol
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.Allweddeiriau
Siaradwyr Cymraeg, amlder iaithSiaradwyr Cymraeg