Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am ba mor aml y mae pobl 3 oed neu hyn yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg, yn ôl awdurdod lleol. Mae'r canrannau hyn yn cyfateb i gyfanswm y ganran sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.